Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chymmerent y byd am fod yn euog o ddyweyd celwydd ar unrhyw achos, yn haeru yn y modd mwyaf syml eu bod wedi gweled ysbrydion, wedi ymddiddan â hwynt, ac wedi cael eu cyfarwyddo ganddynt at bethau a gollasid rai oesoedd cyn hyny. Nid yw yn rhesymol i ni gredu fod yr holl ddynion hyn yn Yr rhuthro i ddywedyd anwiredd gwirfoddol. oeddynt hwy mor sicr o'u cred, yn eu meddwl eu hunain, ag oedd bosibl, ac yn ddifrifol. Credent fod y cythraul yn eu haflonyddu yn eu gwelyau, a chrynent fel dail yr aethnen rhag yr epil ddu a fodolent mewn cwn a chathod. Yr oedd hyd y nod eu hanfod yn gyd-gorffoledig ag amryw ddrychiolaethau a gwag eulunod rhyfeddol, a drosglwyddid o dad i fab, ac yn effeithio ar eu meddyliau, yn fwy neu lai, yn ol dyfnder yr argraff ac yn ol eu tueddfryd; canys yr oedd trigolion pob gwlad fugeiliol a mynyddig yn gyffredin yn fwy coel—grefyddol na'r cyfryw a gyfanneddent yn y gwastadedd a'r broydd gwrteithiedig.

I glywed hanes ac achau bwbachod o bob math nid oedd eisiau ond gofalu bod yn y gegin yn nhymor hirnos gauaf, pan fyddai teulu gwan eu cynhyrau yn ffurfio hanner cylch gerllaw y tân, wrth oleu canwyll frwyn yn crogi oddiwrth fantell y simdde; a buasai yn dda genym gael cyfleusdra i ymddiddan â rhai o honynt, er mwyn eu holi yn neillduol, ac i gael gwybodaeth mwy neillduol yn ngylch ymddangosiad goruwch-naturiol a berthynai i rai o ysbrydion di-gorff tragwyddoldeb, ond y mae y cyfleusdra i hyny yn y byd yma wedi ei golli am byth.

Mae yn hysbys i bawb mai yn y nos yn gyffredin yr ymddengys ysbrydion, ellyllon, drychiolaethau, a'r rhan arall o'r teulu hyn; ond paham y dewisant y nos mwy na'r dydd sydd anhysbys. Rhwng hanner nos ac un yw awr hoffusaf ysbrydion, pryd y byddont yn dyfod allan o'r beddau, ac