yn rhodianna hyd y mynwentydd, neu chware fel plant o gylch y coed yw. Byddai pob ysbryd hefyd arferol o dyfu fwy—fwy, nes o'r diwedd gyrhaedd rhyw faintioli anferthol. Pan welid ef, teimlid y galon yn llesmeirio gan fraw, deuai chwys oer dros yr holl gorff, a chrynid bob gronyn, llifai y gwaed i'r wyneb, safai y gwallt yn union—syth ar y pen; fel mai hawddach oedd credu mil o'r chwedlau na chymmeryd calon i chwilio i wirionedd un o'r mil; ac os mewn ystafell a chanwyll yn oleu ynddi, llosgai y ganwyll yn wyrddlas bob amser pan fyddai ysbryd yn agos, ac arogl brwmstanaidd a lanwai yr ystafell; fel prin y gallai dyn. gael ei wynt. Gŵyr pawb hefyd na wnai ysbryd un amser ddywedyd y gair cyntaf, ac nad rhyw foesol a diogel i deimlad dyn droi drach ei gefn i edrych ar ei fawrhydi yn myned ymaith. Darlunid ef bob amser braidd ar ddull rhyw greadur neu beth sylweddol ag y byddai y sawl a'i gwelai yn gyfarwydd ag ef; canys gallai ymrithio a chymmeryd pob rhyw iun, oddieithr dafad a cholomen.
Nid oedd na gwas na meistr, na morwyn na meistres, na mab na merch, na gŵr na gwraig, nad oeddynt, yn eu tro, wedi gweled yr Un drwg mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yr oedd un wedi ei weled ar lun ci mawr, yn neidio dros y gamfa o flaen drws y tŷ; un arall wedi ei weled fel boneddiges anrhydeddus, mewn gwisg o sidan gwyn; un arall wedi ei weled heb ben, neu â dau gorn iddo; un arall wedi clywed plentyn yn llefain, a rhyfyg mawr fuasai annghoelio ei eiriau; un arall wedi cael ei arwain ar gyfeiliorn ganddo, pan yn croesi y mynydd adre o'r ffair; un arall wedi ei glywed yn nghydol y nos yn chwyrn-dreiglo ceryg dros drwyn y graig i lawr ar hyd llethr y bryn. Byddai ysbryd yn fynych yn cael ei anfon i gadw meddiant o dŷ dros lawer o flynyddoedd, oherwydd i hen wreigan cyn marw guddio ychydig sylltau ynddo; neu bod yno werth ceiniog neu ddwy o