Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen haiarn, oblegyd yr oedd fod mewn lle felly ddarn o haiarn cuddiedig mor sicr o dynu ysbryd i'r fan ag yw tynfaen (loadstone) o dynu nodwydd cwmpawd y morwr ato ei hun. Yr oedd yn rhaid cael ysbryd fel ag i fod wrth law bob amser, ysbryd ag y gallesid ei alw i foddloni mympwy: y naill i gynnorthwyo, a'r llall i rwystro gweithwyr i fyned yn mlaen â'u â'u gwaith. Gellir meddwl fod llawer o ddiniweidrwydd yn perthyn i amryw o honynt, tra y rhoddid chware teg iddynt, ac y cedwid rhag troseddu eu deddfau.

Arferol oedd i ysbrydion gynniwair i nentydd, coedydd, neu gilfachau neillduol. Nid oedd odid blwyf lle ni ddywedid am ryw goed, neu dŷ, neu le tywyll, i lange wrth ddyfod o garu weled ynddynt ysbryd; ac ofn mawr fyddai ar blant a gwragedd, a dynion llawn oed, gyrchu iddynt yn y tywyllwch. Weithiau clywid i law anweledig gydio yn nhroed y forwyn a'i llusgo o'i gwely; a mynych iawn y byddai i ysbryd hen gybydd ymddangos, i nodi yn mha le y cuddiasai ei arian, gan deilwng ystyried na ddeilliai unrhyw lesad oddiwrthynt yn y fath le; mai gwell eu troi at rhyw fudd yn mhlith ei olafion.

Megis yn y corff, yn gyffredin o ran natur, yr ymddygai ysbryd allan o'r corff: os yn frwnt, brwnt wedi'n: os yn lled agored ei enau, felly wedi'n; fel yr ymddengys oddiwrth anianawd hirbarhaol "Ysbryd Coed y Faenol," yn llefain ei dynged mor resynol ar nosweithiau ystormus, yn y geiriau,

"Gwae i mi erioed,
Ro'i esgid am fy nhroed
I ladd yn nghoed
Y Faenol."

Bu hwn yn ddychryn i'r ardaloedd am oesau, ac ni ynganid ei enw ond gydag arswyd. Yn ol tystiolaeth llu o etifeddion tir anghof, ysbryd dyn a