Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

ANFON llyfr heb Ragymadrodd i ddadgan ei nodwedd, a'i gymmeradwyo i dderbyniad y cyhoedd a gyfrifid gan rai yn annghyttunol â moesau da, neu o'r hyn lleiaf â'r ystyriaeth addas o ddyhuddo ffyrnigrwydd beirniadaeth afreidiol. Cymhwys, gan hyny yr ystyriwn roddi ar ddeall nad ydym yn hòni awduriaeth yn y mesur lleiaf—dim ond crynhoi, yn fwyaf neillduol, yr hyn bethau barasant fwyaf o ddyddordeb ini wrth holi, gwrando, sylwi, a chasglu mân—gofion ag oedd yn aros ar gof a llafar mewn cilfachau anhygyrch yn nghyrion gwlad lleoedd ag y ceid ynddynt hen bethau yn aros hwyaf heb ond ychydig gymmysgedd; eithr mwy o wybodaeth draddodiadol llai o'r llyfrrynol, tra neb yn ymhoni ychwaneg o wybodaeth nag yn wirioneddol a feddiannent. Felly trwy i'r naill adroddiad, yn eu clywedigaeth, dynu allan bethau teilwng o gael eu cadw ar gof a hanes, llwyddid yn lled fynych i gipio gweddillion gwerthfawr megis oddiar ffrwd anghof. Yr oedd yr hen bobl yn gwybod llawer, yn neillduol y rhai mwyaf craffus o honynt, ond ni wyddent eu bod yn gwybod, ac ofer fyddai ceisio na chael ganddynt oddigerth trwy ddamwain—megis yn ddiarwybod iddynt, yn y fath fodd cyfrin fel ag i