gafodd ei grogi ar un o'r croesffyrdd am ladradau a llofruddiaethau ydoedd. Yn ol ereill, ysbryd dyn a gafodd ei ladd yn nghoed y Faenol ydoedd ; a'r llinellau cyfeiriedig ato, fel hyn:
"Gwae fi erioed
Ro'i bwyell mewn troed,
I ladd yn nghoed y Faenol."
Ysbryd hynod iawn oedd yr un a aflonyddai breswylwyr Cae-llwyn-grydd, Llanllechid, yr oedd yn curo pawb o'i amgylch! Efe a darawai ddyn yn ei wegil â chareg, pan y byddai yn sefyll a'i gefn ar bared, hyd nes y disgynai ar ei wyneb! Pa mor uchel bynag ydoedd y gwalch hwn yn ei fedrusrwydd i luchio ceryg, yr oedd yn ei fryntwch yn gyfartal ddigon, fel yr ymddengys oddiwrth ei ymddygiadau isel a chreulawn. Hefyd, yn ol hen gerdd, argraffedig yn Nhrefriw, yn y flwyddyn 1784, cawn ddarfod i wr a gwraig, yn mhlwyf Llanllechid, gael cryn fraw oddiwrth anfadwch bwgan a ymddangosai yn rhith mochyn, gan chwalu, tyrfu, dymchwelyd, tori dodrefn, &c.
Marwodd gŵr cyfoethog yn Mhlas Hen, plwyf Llanystumdwy, a daeth ei ysbryd, yn ol arfer gyffredin ysbrydion y pryd hyny i aflonyddu y teulu, fel na chaffent hûn i'w hamrantau. Ar brydiau, byddai'r hen blasdy yn crynu hyd i'w seiliau dan effeithiau ei alluoedd rhyfeddol, megis dan fflangell ambell wthwm ar ol gwthwm o wynt nerthol, y ffenestri yn clecian, a'r piseri dŵr adewid wrth ddrws y cefn yn llenwi yr ardal a'u swn.
Fel yr elai yr amser heibio, ac y cryfhai y brawychdod, bernid gyda dwysder neillduol, mai doeth ymofyn â dewin ar y fath achlysur difrifol, ac efe, fel y gweddai i bwysigrwydd urddas ei swydd ar y pryd, a ymddygodd yn hynod o uniawn yn ngwyneb yr amgylchiad, drwy alltudio yr ysbryd ansyber ac afreolus i'r pantle llawn dyrysgoed ag sydd a'i