Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

orweddle rhwng y Plas Hen a'r Gwynfryn; ac fel mae'n hysbys, yr oedd yn rhaid i ysbrydion gwasanaethgar o'r fath gael gwaith parhaus, onide deuent yn ol i aflonyddu drachefn; a'r gwaith a gafodd yr ysbryd hwn oedd, cario ymaith ddwfr yr afon gerllaw â rhidyll, nes cael o hono ei gwely yn sych; a chan fod mwy o dyllau yn ngwaelod y rhidyll nag o ddim arall, cafodd yn ddiau orchwyl digon anhawdd ei gyflawni ; ac fel yr ymddengys, gwaith lled anghysurus ydoedd i ysbryd hen foneddwr ag oedd wedi arfer byw mewn llawnder, seguryd, a phob moethau o'r fath! Gan nad arferol i neb roddi rhyw lawer o groesaw i ysbrydion eu perthynasau, diau nad oedd neb o deulu yr hen foneddwr hwn yn cwyno nac yn gofidio dim dros ei alltudiaeth yntau.

Yn Nghastellmarch, hen balas godidog yn Lleyn eisteddle boneddion cyfrifol yn deilliaw o gyff âch prif fonedd Cymru, y cyflawnid bron bob math o ystranciau rhwysgfawr, gan amryw ysbrydion ag oedd hoff ganddynt waith; a'r canlyniad o hyn, fu eu hanfon i lan y môr i wneyd rhaff o dywod, yr hwn orchwyl, ni chlybuwyd hyd yn hyn, ddarfod iddynt ei gyflawni, eithr tebygol eu bod yn glynu wrth y gwaith yn ddiwyd, gan nad oes y fath eiriau a "rhoddi heibio waith heb ei orphen" yn ngeirlyfr ysbrydion, hyd y gwyddom; er nad oes i lygad o gnawd unrhyw argoel o wneuthuriad rhaff yn y lle; eto eu henciliad a'u harosiad o'r hen balas am ugeiniau o flynyddau a ddengys rywbeth ; ond anaml y canfyddir hen balasdy, hyd y nod anghyfanedd, yn awr, yn cael ei aflonyddu gan ysbryd.

Yn Mrynllyngedwydd, plwyf Aber—erch, nodir cae a fu yn fynwent cyn gwneyd y fynwent ag sydd yn Aber—erch yn bresenol. Tua chwarter milltir i'r gogledd o'r cae a nodwyd, dywedir y safai Pont y Gwr Drwg, neu Pont Un—nos, yr hon a adeiladwyd mewn un noswaith gan y Gwr Drwg;" a