thua milldir o gae y fynwent, yr oedd Camfa Angharad, lle y cloddiwyd careg o'r ddaear, ac arni gerf-ysgrif, yr hon nis gallai neb ei ddarllen ond Dic Aberdaron. Lle nodedig oedd Camfa Angharad am fwgan, yr hwn a welwyd gan lawer mewn amryw ddulliau, weithiau yn null nifer o ddynion mewn gwisgoedd claer—wynion yn symud yn gyflym drwy eu gilydd, yna yn cyfnewid i ddull milgwn yn llamu dros y clawdd i gae cyfagos. Mae yr hen Gamfa" yn hysbys iawn trwy froydd Llanarmon, Llangybi, a Llanhaiarn. Pawb yn gwybod am" Gamfa Angharad," a'r arswyd i fyned trosti bron cyn i'r nos ymddangos, yn dod i lawr o genedlaeth i genedlaeth ar blant a phobl weiniaid.
Yn nghymdogaeth Llyn-Nad-y-Forwyn yr oedd deuddyn ieuangc wedi eu dyweddio i briodi; ond yr oedd y mab wedi rhoddi ei serch ar ferch arall; a'r noson cyn y briodas rhoddodd hwth i'w ddyweddi i'r llyn uchod, er mwyn bod yn rhydd oddiwrhi i gael priodi y llall. Byth ar ol hyny yr oedd y gymmydogaeth yn cael ei haflonyddu gan ysbryd. Ambell dro ceid ei weled yn dyfod i lawr ar hyd yr afon Golwyn fel olwyn o dân; bryd arall gwelid boneddiges yn rhodio oddeutu yr afon, mewn gwisg o sidan; dro arall byddai cwynfanau dolefus yn dyrchafu o'r llyn; ac ambell dro gwelid merch ieuangc yn dyfod i fyny o'r llyn yn hanner noeth, a'i gwallt gwlyb yn hongian i lawr dros ei hysgwyddau; ac yn cwynfan yn chwerw a thorcalonus uwchben y llyn, yr hwn, ar ol hyny, a elwid "Llyn-Nad-y-Forwyn."
Yn y Waen Fawr, mor ddiweddar ag oes Dafydd Ddu Eryri, yr oedd ysbryd yn ymhyfrydu bod ar ben coeden yn nyddu troell fach, &c., a chanodd y bardd awenber iddo fel hyn :
"Mi glywais i ers dyddiau
Fod bwgan yn y Pentre'
Weithiau'm mrig y coed yn dân
Yn chware'r mân ganghenau.