Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n well gan ambell gythrel
Gael gwneyd ei sedd yn uchel;
Rhoed pawb eu gweddi tra bo chwyth
Na ddelo byth yn isel."

"Yr oedd rhywbeth pur ddychrynllyd weithiau i'w weled, ac yn fynych iawn i'w glywed, yn y coed yn nghymmydogaeth Boduan, yn Lleyn. O ran ffurf nid annhebyg ydoedd i lwynog, ond ei fod yn fwy ei faint, ac ysmotiau mawrion draw ac yma ar hyd-ddo. Yr oedd ei oernadau yn y nos, medd llên y werin, yn ddigon i yru arswyd drwy gilfachau y galon ddewraf. Er bod yr olwg arno i raddau yn debyg i lwynog, eto yr oedd y swn a wnelai yn debycach i fref asyn nag i gyfarthiad cadnaw. Os dynwaredai un ei oernadau, atebai yntau ef yn gyson, a dynesai ato hyd o fewn ychydig; ond ni ddeuai braidd un amser mor agos ag y gallai dyn ei weled. Nis clywid son am dano yn yr haf nac yn gyffredin yn ystod y dydd; ond ar nosweithiau yn y gauaf, yn enwedig os byddai hi yn barugo, yr oedd yr oernadu yn ofnadwy iawn. Un o'i nodweddion ydoedd ei elyniaeth tuag at gathod; cipiai hwynt pa le bynag y cai gyfle arnynt ac ni welid mohonynt mwy. Bu yn ardal Boduan, ac oddi yno i goed y Plas Hen, yn Eifionydd, am rai blynyddoedd; ond bellach nid oes son am dano yn un o'r parthau hyn. Bernir gan rai o ddoethion Lleyn, mai rhyw fwystfil tramor ydoedd; ac mai diangc a wnaethai o ryw long a ddygwyddai fod yn angori yn angorfa St. Tudwal neu ryw le arall yn y cwmpasoedd. Ac os felly mae Bwystfil Boduan yn cyfateb i gryn raddau i Gath Balug yr hen Chwedlau Cymreig.'

Er ys llawer o flynyddau yn ol, ni cheid na thawelwch na llonyddwch yn Gellewig, plwyf Bryncroes, gan ymyriadau ysbryd dyreidus, yr hyn a barodd i'r teulu dybio mai gwell fyddai myned i geisio Mr. Williams, Ebrwyad Llanengan, gŵr a chanddo allu "i godi ac i ostwng