fel llecyn ag yr oedd pobl yn gweled y gwrthddrychau hyn ar amserau pennodol iddynt ymddangos. Bu y bardd parod a medrus ei awen, Sion Cawrdaf, neu Sion Owen y Garddwr, fel yr adnabyddid ef yn fwyaf cyffredin, yn byw yn y lle yma, ac fel yr oedd efe a'i briod unwaith yn digwydd dyfod adref o Bwllheli, a throi o honynt i westy yn Abererch, a digwydd i'r bardd ymloni a chael blas ar ymdroi, er cryfed rhesymau ac esgusodion teg y wraig i geisio ei ddenu adref, yn ngwyneb ei awgrymiadau ef dros iddi fyned ei hunan; ond o'r diwedd, yn ol ei hen arfer naturiol, torodd y bardd allan fel y canlyn:
"Mae Hannah heno yn ei chrwth
Yn bygwth gweled bwgan,
Yr hen Rahel Penarth Bach
Yn rorio am yr arian.'
Dywed hen draddodiad y byddai yr Un drwg yn ymddangos i ddynion, yn eu harwain i ffosydd yn hirnos gauaf, a pheri iddynt golli y ffordd yn y tir ag sydd a'i orweddle rhwng Broom Hall a Rhedynog; ac yn ngwyneb hyny, nad oedd dim yn well i ddyn wneyd na throi ei logell y tu gwrthwyneb allan, yna byddai y gwr drwg yn cilio ymaith, neu, yn fwyaf tebygol, y dyn yn dyfod ato ei hun ar ol ymddyrysu, drwy gymmeryd amser i droi ei logell, yr hyn oedd yn tynu ei sylw oddiar y cyfeiriad oedd ganddo mewn golwg pan gollodd y llwybr.
Yr oedd rhyw ysbryd neu ddrychiolaeth yn Mhenfarth Fawr, fel yn mhob lle ag y byddai hen adeilad yn bodoli, yr hwn oedd yn arswydo braidd bawb a elent heibio i lidiard y buarth os byddai yn hwyr. Y Ladi Wen oedd cynllun ysbrydol y bwgan hwn, yn arddull o ferch ieuangc hynod brydferth o bryd a gwedd a ymgartrefai yn y lle, yr hon ag yr oedd balchder ac uchder yn elfen ryfygus yn ei chyfansoddiad, a charu yn achos hoff