Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac mai oddiwrthynt hwy y trosglwyddwyd y cyfryw i blith y llwythau Ellmynaidd. Gallai hyny fod yn wir, oblegid fod y Celtiaid wedi gwladychu yn Ewrop o flaen yr Ellmyn. Ymddengys hefyd fod Tylwyth Teg y Celtiaid yn fodau mwy diniwed nag Elffod yr Ellmyn a'r Llychlynwys, a dichon y gellir priodoli hyny i'r ffaith nad oedd y Celtiaid yn oresgynwyr mor greulawn a gwaedlyd a'r Ellmyn, ac felly nad oeddynt yn cynhyrfu dialedd y rhai a oresgynid ganddynt i'r un graddau o gynddaredd.

Prin iawn yw ein gwybodaeth am y llwythau a gyfanneddent yn Mhrydain tuag amser dyfodiad y Rhufeiniaid i'r Ynys. Os oedd rhai o'r hen frodorion cyntaf, a ragflaenorent y Celtiaid yn rhanau aros y pryd hwnw, gellid disgwyl eu bod yn pellaf y wlad, neu y rhanau mwyaf mynyddig o honi, lle y gallent amddiffyn eu hunain oreu rhag eu gelynion. Cawn ar ddeall fod yn amser y goresgyniad Rhufeinig lwyth o bobl o'r enw Cangi, neu Ceangi, yn preswylio mynyddoedd Eryri a'r ardaloedd cylchynol; a lle a fu wedi hyny yn amddiffynfa gref i'r Cymry yn ystod rhuthriadau aml y Saeson arnynt. Yr oedd hefyd lwyth o'r un enw yn cyfaneddu yn y rhan fwyaf gorllewinol o'r Iwerddon, yn gyfagos i aber y Shannon. Cyfanneddai y llwythau yna yn y manau lle buasai yn naturiol disgwyl fod rhai o weddillion y cynfrodorion yn aros. Heblaw hyny y mae genym brofion fod y Cangi yn enwog fel mwngloddwyr, yr un fath a'r Ffiniaid a'r Basciaid. Yr ydys wedi cael yn Mhrydain amryw farau o blwm wedi eu cloddio yn amser y Rhufeiniaid, ac mor gynnar a'r ganrif gyntaf, ac argraff Rufeinig arnynt, yn dangos pa ymerawdwr oedd yn teyrnasu ar y pryd, ac y mae enw y Cangi, neu y Ceangi, ar rai o honynt, yn arwyddo eu bod wedi eu cloddio a'u toddi gan y llwyth hwnw. Cloddiwyd a thoddwyd hwy yn Ngogledd Cymru, yn nghyffiniau y llwyth hwnw,