Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans, D.D., Caernarfon. Daw Y Dysgedydd allan yn fisol, a'i bris ydyw pedair ceiniog. Mae yn ddealledig mai cyhoeddiad perthynol i'r Annibynwyr ydyw hwn, ac y mae yr elw oddiwrtho yn myned at gynnorthwyo gweinidogion a phregethwyr oedranus yn eu plith hwy. Argrephir ef, ar ran yr ymddiriedolwyr, gan Mr. William Hughes, Dolgellau.

Y Gwyliedydd, 1822.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan ar Medi laf, 1822. Cyhoeddiad perthynol i'r Eglwys Sefydledig ydoedd, a golygid ef, yn benaf, gan y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain), ac argrephid ef gan Mr. R. Saunderson, Bala. Ceir fod y Parchr. R. Richards, Caerwys; J. Roberts, Tremeirchion; J. Jenkins (Ifor Ceri), Ieuan Glan Geirionydd, Ioan Tegid, &c., yn mhlith ei ysgrifenwyr. Ei amcan, yn ol yr anerchiad "At y Cymry" a geir yn y rhifyn cyntaf ohono, sydd yn cael ei osod gerbron fel hyn:—"Dyben cyhoeddwyr Y Gwyliedydd ydyw bwrw had lle nad yw hadau eraill yn cyrhaedd. Nid cyhoeddiad o wrthwynebiad ydyw i un cyhoeddiad arall; ond cyd-gynnorthwy-ydd a phob un ohonynt yn yr achos mawr cyffredinol— achos yr Eglwys sydd ar wasgar trwy y byd." Ei arwyddair ydoedd: "Yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel" (Ezec. xxxiii. 7). Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Credwn fod y rhifyn olaf wedi dyfod allan yn Rhagfyr, 1837, ac felly gwelir mai am yn agos i bymtheg mlynedd y parhaodd, a chredwn, wrth ystyried pobpeth, mai anffawd oedd i gylchgrawn mor dda gael ei roddi i fyny. Ceid ynddo lawer o newyddion lleol o wahanol ranau Cymru. Rhoddid lle arbenig ynddo i hanesion Cymreig a chrefyddol, a gellir dyweyd yn ddibetrus mai un o'i neillduolion ydoedd rhagoroldeb ei farddoniaeth. Ystyrid