Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr Efengylydd, 1831.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1831, gan nifer o'r Annibynwyr, a golygid of gan Mr. David Owen (Brutus), a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. William Rees, Llanymddyfri, a dywedir fod y Mr. W. Rees hwn yn un o'r argraphwyr goreu a fu erioed yn Nghymru, ac y mae yn amheus a oes yn yr iaith Gymraeg gyhoeddiad wedi ei argrapha, o ran gwaith, mor ragorol a'r Efengylydd. Parhaodd i ddyfod allan am bum' mlynedd, a rhoddwyd ef i fyny gan ei hyrwyddwyr, gan yr ystyrient nad ydoedd yn eu gwir gynnrychioli.

Y Cynniweirydd, 1834.—Oychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1834, dan ofal a golygiad y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac argrephid af gan y Meistri Lloyd, Wyddgrug. Deuai allau yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ei arwyddair ydoedd:"Llawer a gynniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Ystyrid ef yn gyhoeddiad crefyddol, ond cynnwysai lawer o wybodaeth gyffredinol. Wele, er enghraipht, gynnwys un rhifyn o hono:—"Duwinyddiaeth yw yr adran gyntaf, a cheir ynddi ysgrifau duwinyddol. "Yr Athraw" yw penawd yr ail adran, a cheir ynddi ysgrifau ymarferol, yn nghyda gofyniadau ac atebion. Gelwir y rhan farddonol yn "Y Caniedydd," a'r bywgraphiadau yn "Yr Hanesyddol." Yna ceir "Hysbysiadau Crefyddol," "Hanesion Tramor," "Newyddion Cartrefol," &c. Ni pharhaodd, modd bynag, ond hyd at ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

Yr Haul, 1835.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1835, dan olygiad Mr. D. Owen (Brutus), ac argrephid ef gan Meistri D. R. a W. Rees, Llanymddyfri. Darfu i Meistri Rees ymneillduo oddiwrth y fasnach argraphu, a gwerthwyd yr hawl i Brutus, a darfu iddo yntau, oddeutu ugain mlynedd ar ol hyny,