Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneyd trefniadau & Mr. W. Spurrell, cyhoeddwr, Caerfyrddin, i'w argraphu, a chan y Meistri Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin, yr argrephir ef yn bresennol (1892). Parhaodd Brutus i olygu Yr Haul o'r cychwyniad hyd ddechreu y flwyddyn 1866, ac afiechyd, yr hwn a ddiweddodd yn angeuol, a ddarfu ei luddias rhag parhau yn hwy. Ar ol marwolaeth Brutus, golygid ef, am yapaid, gan Mr. W. Spurrell ei hun, er fod dau ohebydd arall yn arfer ysgrifenu llawer iawn iddo, sef y Parch. John Davies, B.D. (Hywel), ficer Llanhywel, Sir Benfro, a Mr. John Rowlands (Giraldus), yagol feistr, Caerfyrddin. Byddai gan y ddau hyn, mewn gwirionedd, ran yn yr olygiaeth gyda Mr. Spurrell ei hanan. Ystyrir Yr Haul, erbyn hyn, fel y cylchgrawn bynaf a berthyn i'r Eglwys Sefydledig yn Nghymru. Cofier mai anturiaeth bersonol hollol ydoedd cychwyniad yr Haul, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1885, pryd y prynwyd yr hawl ynddo gan Bwyllgor perthynol i'r Eglwys Sefydledig, ac ar yr adeg hon y pennodwyd y Parch. Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), Llangwm, yn olygydd iddo, ac efe sydd, hyd yn bresennol (1892), yn parhau i'w olygu. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw tair ceiniog Ceir ynddo amrywiaeth, ac ymdrinir â llawer o faterion amserol a dyddorol. Rhaid i ni gyfeirio at anerchiad yr Archddiacon Howell, B.D., ar y testyn "Gweddi," yr hon a ymddangosodd yn y rhifyn am Chwefror, 1892, fel un hynod dda; a chawn gyfres o ysgrifau yn y cylchgrawn hwn, ar faterion fel y canlyn:—"Llenyddiaeth Eglwysig" (Mr. Charles Ashton, Dinas Mawddwy), "Gwyrthiau yr Arglwydd Iesu," ac adran fisol dan y penawd "Duwinyddiaeth," ac ysgrifau ar "Llan Cwm Awen," a "Chwedl Hanesig," ar ddull Rhamant, &c. Ei arwyddair ydyw: