Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—"Yn ngwyneb Haul a llygad Golenni." "A Gair Duw yn Uchaf."

Y Diwygiwr, 1835.—Cofier mai pwyllgor perthynol i'r Annibynwyr yn y Deheudir a ddarfu gychwyn Yr Efengylydd, am yr hwn y soniwyd eisoes, a hwy oeddynt ei brif gefnogwyr. Ond, gan fod y pwyllgor yn credu fod Yr Efengylydd (dan olygiaeth Brutus) yn tueddu at fod yn rhy Geidwadol ei syniadau, &c., a chan fod hyny wedi arwain y pwyllgor i anghydwelediad gyda'r golygydd, torwyd Yr Efengylydd i fyny, a darfu i Brutus, mewn undeb â'i gyhoeddwr, gychwyn misolyn o'r enw Yr Haul, a darfu i'r pwyllgor uchod, ar y llaw arall, gychwyn cylchgrawn misol o'r enw Y Diwygiwr, a dechreuodd ddyfod allan yn y flwyddyn 1835, dan olygiaeth y Parchn. T. Davies, D.D., Llanelli, a T. Davies, Llandeilo, a hwynt-hwy a fu yn ei olygu, o'r pryd hwnw, hyd y flwyddyn 1873. Yna, o'r flwyddyn 1873 hyd y flwyddyn 1880, golygwyd ef gan y Parch. T. Davies, D.D., Llanelli; ac o'r flwyddyn 1880 hyd y flwyddyn 1889, gan y Parchn. E. A. Jones, Manordeilo, a D. A. Griffiths, Troedrhiwdalar; ac o'r flwyddyn 1880 hyd yn bresennol (1892) y mae dan olygiaeth y Parch. R. Thomas, Glandwr, ger Abertawe, a Watcyn Wyn, Ammanford. Argrephid ef, ar ei gychwyniad yn y flwyddyn 1835, gan y Meistri David Rees a John Thomas, Llanelli; ond, cyn hir ar ol hyny, daeth i gael ei argraphu gan y Meistri Rees a Williams, Llanelli, a hwy a fu yn ei argraphu hyd y flwyddyn 1860, ac oddiar hyny hyd yn bresennol (1892), argrephir ef gan Mr. B. R. Rees, Llanelli. Daw allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog, ond oddeutu y flwyddyn 1853 gostyngwyd y pris i bedair ceiniog, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1890, ond ei bris oddiar hyny yn mlaen ydyw tair ceiniog. Cyhoeddir