Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef dan nawdd gweinidogion yr Annibynwyr," ac er nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyugddo â'r Annibynwyr, eto yn eu plith hwy y derbynir ef fwyaf, ac yn enwedig felly yn y Deheudir. Ystyrir af yn gyhoeddiad crefyddol da.

Y Pregethwr, 1835, 1890.-Cychwynwyd cyhoeddiad dan yr enw hwn, i ddechreu, yn y flwyddyn 1835, gan Mr. John Jones, cyhoeddwr, Lerpwl, a chyhoeddid ynddo, o fis i fis, wahanol bregethau gan wahanol weinidogion perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, ond ni pharhaodd yn hwy na deng mlynedd. Yn mis Ionawr, 1890, cychwynwyd cyhoeddiad arall o'r enw Y Pregethwr gan Mr. H. Evans, cyhoeddwr, Bala, ac efe hefyd sydd yn ei argraphu. Cyhoeddiad anenwadol ydyw hwn, a chyhoeddir pregeth ynddo, bob mis, gan weinidog o un o'r pedwar enwad—Bedyddwyr, Wesleyaid, Annibynwyr, a'r Methodistiaid Calfinaidd. Daeth allan, i gychwyn, dan olygiad y Parchn. D. Roberts (M.C.), Rhiw, Ffestiniog; Abel J. Parry (B.), Cefnmawr; Hugh Hughes (W.), Birkenhead; a D. Evans (A.), Heol Awst, Caerfyrddin. Ei bris ydyw ceiniog. Ei arwyddair ydyw : "Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy." Yn y rhifyn cyntaf a ddaeth allan ohono ceir darlun o'r Parch. A. J. Parry, Cefnmawr, a phregeth ganddo ar "Peryglon Gwrthgiliad," seiliedig ar Heb. vi. 1-6. Hefyd, yn yr un rhifyn, ceir erthyglau byrion ar "Geiriau Italaidd y Beibl," "Cynghorion syml i bregethwyr ieuainc ac eraill" (gan Hen Weinidog), a darnau barddonol ar "Brwydr y Groes" (Hwfa Môn), ac "Amser."

Y Seren Ogleddol, 1835.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn nechreu y flwyddyn 1835, dan olygiad a nawdd dirprwywyr y Gymdeithas er taenu gwybodaeth Eglwysig," a chyhoeddid ac argrophid of gan Mr. Josiah