Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grephid ef, i ddechreu, gan Mr. T. Price, Heol Fawr, Merthyr Tydfil, ond, ar ol y flwyddyn gyntaf, argraphwyd ef gan Mr. Ll. Jenkins, Caerdydd. Rhoddodd y Parch. Thomas Davies yr olygiaeth i fyny ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, ac felly disgynodd yr olygiaeth ar y Parch. W. R. Davies ei hunan. Newidiwyd enw y cyhoeddiad hwn, oddeutu canol y flwyddyn 1841, i fod yn Y Cenhadydd, ond rhoddwyd ef i fyny oddeutu tair blynedd ar ol hyny.

Y Bedyddiwr, 1841, Y Gwir Fedyddiwr, 1842, Y Bedyddiwr, 1844.—Cychwynwyd Y Bedyddiwr cyntaf yn y fiwyddyn 1841, gan y Parch. John Jones (Jones, Llangollen), gweinidog gyda'r Annibynwyr, Llangollen. Bu ef mewn dadleuon ffyrnig â'r Bedyddwyr, a chychwynodd y cylchgrawn hwn er mwyn cael cyfleusderau i amddiffyn taenelliad a bedydd babanod. Prin y parhaodd i ddyfod allan am ddwy flynedd. Y canlyniad a fu, modd bynag, i'r cyhoeddiad hwn er amddiffyn taenelliad, fod yn achlysur i Mr. Ll. Jenkins, Caerdydd, gychwyn cyhoeddiad o'r enw Y Gwir Fedyddiwr, yr hwn a fwriedid i wrth-weithio dylanwad cyhoeddiad y Parch. John Jones. Cyhoeddid a golygid Y Gwir Fedyddiwr gan Mr. Ll. Jenkins ei hunan, a daeth y rhifyn cyntaf allan yn Ionawr, 1842. Barnwyd, ar ol i gyhoeddiad Mr. Jones, Llangollen, gilio oddiar y maes, mai mwy priodol a fuasai newid enw Y Gwir Fedyddiwr yn Y Bedyddiwr, a daeth allan dan yr enw newydd hwn yn nechreu y flwyddyn 1844. Rhoddodd Mr. Jenkins yr olygiaeth a'r argraphu i fyny yn niwedd Mehefin, 1844, pryd y cymerwyd yr olygiaeth gan y Parch. W. Owen, Caerdydd, yr hwn hefyd, gyda Mr. R. Roberts, oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei argraphu. Parhaodd y Parch W. Owen i'w olygu hyd ddiwedd y flwyddyn 1852, pryd yr ymgymerwyd â'r olygiaeth