Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grythyrol ac Eglwysig, Duwinyddiaeth, Y Genhadaeth, Hanesiaeth Grefyddol, Llenyddiaeth Gyffredinol, Gwleidyddiaeth," &c. Dywedir yn y Rhaglith" am Ionawr, 1845 "Ein hamcan yn cyhoeddi Y Beirniadur yw gosed llyfryn yn nwylaw yr efrydydd Cymreig fydd yn debyg o eangu ei feddwl a gwellhau ei galon." Rhoddid sylw arbenig ynddo i Eglurhadaeth Ysgrythyrol, a byddai athroniaeth (naturiol a moesol), seryddiaeth, daearyddiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, ac areithyddiaeth, &c., yn cael lle ynddo, ac ofnwn ei fod braidd o nodwedd rhy uchel i'r lluaws, y pryd hwnw, i allu ei fwynhau, a hyn, yn gystal ag ychydig o gam-ddealltwriaeth rhwng y golygydd a'r cyhoeddwr, a fu yn achos iddo i gael ei roddi i fyny yn fuan iawn. Maintioli Y Beirniadur Cymreig, yn y flwyddyn 1845, ydoedd deuddeg-plyg, ond yn y flwyddyn 1846, newidiwyd ef i wyth-plyg o faintioli mwy, a chymerwyd yr olygiaeth gan y Parch. David Hughes, B.A., Tredegar (yr adeg hono yn Bangor), ac awdwr Geiriadur Ysgrythyrol a Duwinyddol, &c. Bechan modd bynag, a fu y gefnogaeth, fel na ddaeth allan o gwbl ond chwe' rhifyn o hono am y flwyddyn hono.

Y Tyst Apostolaidd, 1846.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1846, dan olygiad y Parch. R. Ellis (Cynddelw), yr hwn, ar y pryd, oedd yn gweinidogaethu yn Glynceiriog, ac argrephid ef gan Mr. W. Williams, Llangollen. Ei bris ydoedd tair ceiniog. Ystyrid yr argraphwasg hon yn Llangollen fel un oedd wedi ei chodi er budd yr enwad, a chychwynid y cyhoeddiad hwn, yn un peth, er mwyn rhoddi gwaith iddi, a theimlid hefyd fod anghen rhywbeth rhatach na cylchgronau chwe' cheiniog y mis, yr hyn ydoedd pris Seren Gomer a'r Bedyddiwr. Daeth allan yn unffurf a rheolaidd hyd ddiwedd y flwyddyn 1850, pryd ar ddechreu y