Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn 1851, yr unwyd ef a'r Athraw i Blentyn, a galwyd ef am y mis Ionawr hwnw yn Yr Athraw, ond oddiar hyny hyd ddiwedd y flwyddyn, pryd y rhoddwyd ef i fyny, galwyd ef ar yr hen enw. Gwelir felly, wrth gyfrif y gyfrol plyg bychan am y flwyddyn 1851, fod chwe' cyfrol o'r Tyst Apostolaidd wedi dyfod allan.

Yr Eglwysydd, 1847, Y Cenhadur Eglwysig, 1853, Yr Eglwysydd a'r Cenhadydd Eglwysig, 1855.—Cychwynwyd Yr Eglwysydd yn nechrau y flwyddyn 1847, dan nawdd elerigwyr Esgobaethau Bangor a Llanelwy, ac argrephid ef, i ddechreu, gan Mr. William Morris, cyhoeddwr, Treffynon, a symudwyd ef drachefn i'w argraphu yn Rhyl. Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen. ydoedd: "Ceisiwch ragori tuagat adeiladaeth yr Eglwys" (1 Cor. xiv. 12). Dywedir mai colled arianol a fu ei gychwyniad. Ceir, modd bynag, fod cylchgrawn o'r enw Y Cenhadwr Eglwysig wedi ei gychwyn yn y flwyddyn 1853, dan olygiad y Parch. Edward Jones, Llanfaircaereinion, ac yr oedd hwn hefyd yn dal cysylltiad a'r Eglwys Sefydledig, ac argrephid ef yn Llundain. Yn y flwyddyn 1855, unwyd y cyhoeddiadau hyn, a daethant allan dan yr enw Yr Eglwysydd a'r Cenhadydd Eglwysig, ac felly yr oedd yn un cyhoeddiad cryfach a helaethach na'r ddau ar wahan fel o'r blaen, a'i bris yn awr ydoedd dwy geiniog. Parhaodd i ddyfod allan yn y ffurf hon yn rheolaidd hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddwyd ef i fyny.

Yr Ymofynydd, 1847.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1847, gan y Parch. John Jones, Penybont, yr hwn a fu yn ei olygu gyntaf, ac ar ei ol ef ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parch. J. Jones, M.A., Aberdar, ac argrephid ef gan Mr. J. Howell, Aberdar. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ni