Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Udgorn Seion, 1849.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1849, ae argrephid ef, i ddechreu, gan Mr. John Davies, argraphydd, Merthyr Tydfil. Cylchgrawn ydoedd yn perthyn i'r Mormoniaid, neu fel y gelwir hwy weithiau yn "Seintiau y Dyddiau Diweddaf," a hwy oeddynt yn ei gefnogi, ac yn ei gario yn mlaen. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen, ydoedd:

"Deuwch allan ohoni hi
(Sef Babilon) fy mhobl i."

Ceid ynddo ysgrifau ar destynau fel y rhai canlynol:—

"Barn Ddidrugaredd," "Y Cholera," "Ymogelwch rhag y Gau-Seintiau," "Canu," "Anghyfnewidioldeb Duw," "Offeiriadaeth," &c. Bu yn cael ei argraphu, o dro i dro, mewn gwahanol swyddfeydd, megis eiddo y Meistri D. Jones, 14, Castle-street, Merthyr Tydfil; D. Jones, Abertawe; G. Cannon, Islington, Lerpwl; Daniel Daniels, Abertawe; a Benjamin Evans, eto. Cawn fod gostyngiad i geiniog-a-dimai wedi cymeryd lle yn ei bris yn ystod y flwyddyn 1861. Yr oedd yn gyhoeddiad destlus, yn cynnwys un-ar-bymtheg o dudalenau, a pharhaodd i ddyfod allan am flynyddoedd.

Y Wawrddydd, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1850, a golygid ac argrephid ef gan Mr. Josiah Thomas Jones, Caerfyrddin. Cyhoeddiad bychan iawn ydoedd, a deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dimai. Ber a fu ei oes.

Y Cylchgrawn, 1851.-Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1851. Golygid ef, ar ei gychwyniad, gan y Parch. W. Williams, Penclawdd (Abertawe yn awr), a Mr. John Howell (Bardd Coch), Pencoed, ac argrephid of gan Mr. J. Rosser, Heathfield-street, Abertawe. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd