Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pedair ceiniog, a chyhoeddid ef dan nawdd Trefnyddion Calfinaidd y Deheudir. Daeth y rhifyn olaf o'r gyfres hon allan yn Mawrth, 1855. Yn Ionawr, 1862, modd bynag, ail-gychwynwyd ef, ac ymddengys, yn y cyfnod hwn, fod y gohebiaethau i'w hanfon i un neu arall o'r rhai canlynol—Parchn. E. Matthews, Penybont; W. Thomas (Islwyn), T. James, M.A, Llanelli; Mr. J. Rosser, Abertawe; ac yn nechreu y flwyddyn 1864, ychwanegwyd atynt Mr. W. Davies (Teilo), Llandeilo, a dengys hyn oll fod yr olygiaeth, i raddau, dan ofal amryw, ond yn benaf yn llaw Mr. Matthews. Argraphid y gyfres hon eto, hyd ddiwedd y flwyddyn 1863, yn swyddfa Mr. J. Rosser, Abertawe, pryd, yn Ionawr, 1864, y symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. D. Williams, Llanelli. Daeth, mewn amser, gyfnewidiad drachefn dros y trefniant hwn, a bu Y Cylchgrawn yn cael ei ddwyn allan dan nawdd pwyllgor o wahanol Gyfarfodydd Misol y Deheudir, yr hwn bwyllgor oedd hefyd yn gweithredu mewn cysylltiad ag Athrofa Trefecca, a darfu i'r pwyllgor hwn bennodi y Parch. W. Williams, Abertawe, yn olygydd, ac ar ol hyny, ar wahanol adegau, bu dan olygiaeth y Parchn. J. Cynddylan Jones, D.D., Caerdydd; J. M. Jenkins, Ph.D., Llanfairmuallt; J. Morgan Jones, Caerdydd, ac yn diweddaf oll dan olygiaeth Mr. D. Richards (Calfin), Llanelli, yn nghyd â'i berchenog hefyd. Bu yn dyfod allan yn y dull hwn am rai blynyddoeddyn codi ac yn machludo bob yn ail, ac, o'r diwedd, ciliodd yn llwyr. Ceir, er hyny, ei fod wedi ail-gychwyn eto yn Ionawr, 1891, dan olygiaeth y Parch. John Owen, Burry Port, a golygir ei farddoniaeth gan y Parch. L. Rhystyd Davies, Amman View, R.S.O., ac argrephir ef eto gan y Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Daw allan yn fisol, a'i bris yn awr ydyw dwy geiniog. Dywed y golygydd, yn ei anerchiad gychwynol i'r gyfres hon, mai amcan