Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Cylchgrawn ydyw gwasanaethu Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn y De drwy "gymeryd maes iddo ei hun sydd yn cael ei esgeuluso gan bawb."

Yr Hyfforddwr, 1852, Yr Hyfforddiadur, 1855.—Cychwynwyd Yr Hyfforddwr yn Ionawr, 1852, dan olygiaeth Mr. John Edwards (Meiriadog), Llanfair, ac argrephid ef gan Mr. George Bayley, Heol Estyn, Gwrecsam. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ymddengys mai cylchgrawn yn perthyn i'r adran hono o'r Bedyddwyr a elwir yn Disgyblion, neu yn fynychaf yn Campbelliaid, ydoedd hwn, a defnyddid ef, yn benaf, er gwasanaethu amcanion y cyfryw. Cawn, yn Ionawr, 1854, fod y cylchgrawn wedi ei helaethu yn llawer mwy, a chodwyd ei bris i ddwy geiniog. Ceir, modd bynag, yn Ionawr, 1855, fod y cylchgrawn hwn yn cael newid ei enw yn Yr Hyfforddiadur, a pharhaodd i gael ei olygu gan Meiriadog fel o'r blaen, ac am yr un bris ag o'r blaen, ac argrephid ef gan Mr. James Lindop, Heol-yr-Eglwys, Gwrecsam. Ei arwyddair, o'r cychwyn, ydoedd: "Yn nawdd Duw a'i dangnef—Y Gwir yn erbyn y byd." Ceir erthyglau ynddynt ar destynau fel y rhai canlynol:—"Galw yr Apostolion," "Cwpan Christ a Chwpan y Saint," "Prophwydoliaeth Ioan Fedyddiwr," "Anghrist yr Oes hon," "Samariaeth," "Ffydd," &c.

Y Greal, 1852.—Cychwynwyd y cyhoeddiad misol hwn, dan yr enw Y Greal, yn Ionawr, 1852, gan Mr. W. Williams, Llangollen, ac efe hefyd oedd yn ei argraphu. Golygid yr oll o'r ddwy gyfrol gyntaf (oddieithr yr hanesion) gan y Parch. R. Ellis (Cynddelw), a golygid yr hanesion am y blynyddoedd hyny gan y Parch. E. Roberts, D.D., Pontypridd. Arolygid y cyhoeddiad hwn am y flwyddyn 1854 gan y Parch. J. Pritchard, D.D., Llangollen. Golygwyd ef am y blynyddoedd 1857—8 gan y Parch. J. Jones (Mathetes). Nid oedd yr un golygydd