Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregethwyr." Ceid ysgrifau ynddo dan yr adranau canlynol:"Traethodau," "Congl yr Ysgol Sul," "Hanesion Crefyddol," "Barddoniaeth," "Hanesion Cyffredinol," "Manion," &c. Ni pharhaodd yn hir.

Y Llusern, 1858.-Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1858, a chychwynwyd of gan nifer o'r Bedyddwyr Campbellaidd, ac i'w gwasanaethu hwy, yn benaf, y deuai allan. Golygid ef, yn ol pob tebyg, gan Mr. J. Edwards (Meiriadog), Llanfair, ger Trallwm, ac argrephid ef, dros ei hyrwyddwyr, gan Mr. George Bayley, Gwrecsam. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Llusern yw dy air i'm traed." Ei amcan ydoedd "pleidio dychweliad at Gristionogaeth Gyntefig," a "gwneyd a ellid er cynnorthwyo symudiad er gwell yn y pwnc mawr o grefydd." Parhaodd i ddyfod allan am rai blynyddoedd.

Y Gwyliedydd, 1860.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1860, a golygid ef gan y Parchu. Benjamin Evans, Castellnedd, a J. Rowlands, Llanelli, ac argrephid ef, ar ei gychwyniad, gan Mr. D. J. Davies, Abertawe, ac wedi hyny gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar, ac yn ddiweddaf gan Mr. W. M. Evans, Caerfyrddin. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Diweddodd ei yrfa yn niwedd y flwyddyn 1868, ac felly parhaodd i ddyfod allan am oddeutu wyth mlynedd.

Yr Ardd, 1863.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn ar Awst 15fed, 1868, dan olygiaeth y Parch. David Roberts, D.D., Gwrecsam, ac argrephid ef, o'r cychwyn, gan Mr. William Jones (Gwilym Ogwen), Bethesda, a phan ddarfu iddo ef symud i Ddolgellau, parhaodd i'w argraphu yno hefyd. Ei bris ydoedd