Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyneb-ddalen, ei fod yn "gylchgrawn misol rhydd ac ansectaraidd at wasanaeth y Cymry," eto yr oedd yn hollol amlwg mai cyhoeddiad at wasanaeth y Bedyddwyr ydoedd yn benaf. Ymddengys mai y deuddagfed rhifyn (yr un am Gorphenaf, 1870), oedd yr olaf a ddaeth allan ohono, a bernir iddo gael ei roddi i fyny y pryd hwnw ar gyfrif diffyg cefnogaeth.

Y Gwyliwr, 1870.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Chwefror, 1870, dan olygiaeth y Parchn. B. Evans, J. Rowlands, H. Cefni Parry, & T. E. James. Ceir, yn y flwyddyn 1871, fod y Parchn. J. Spinther James ac H. Gwerfyl James, yn gweithredu fel golygwyr yn lle y ddau ddiweddaf a nodwyd o'r rhai uchod. Argrephid ef gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Cyhoeddiad perthynol i'r Bedyddwyr ydoedd hwn, ond ber iawn a fu ei oes.

Amddiffynydd yr Eglwys, 1873.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mehefin, 1873, dan olygiaeth, i ddechren, y diweddar Barch. H. T. Edwards, Deon Bangor, ac argrephid ef gan Mr. John Morris, 30, High-street, Rhyl. Bu hefyd, am yspaid, dan olygiaeth y Canon D. Walter Thomas, Bethesda, ac wedi hyny bu dan ofal y diweddar Canon Daniel Evans, Caernarfon. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog, Ceid darlun o'r Eglwys Gadeiriol ar ei wyneb-ddalen, a'r farddoniaeth ganlynol ar y ddwy ochr iddo:—

"Twr y gloch treigla uohod—ei wys hen
I wasanaeth Duwdod;
Cana ei hen dinc hynod,
Llan, Llan, Llan yw 'r fan i fod."

"O fewn dy gaerau heddwch boed,
I'th lysoedd deued hawddfyd;
Er mwyn fy mrodyr mae 'r arch hon,
A'm cymydogion hefyd."