Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Bedyddiwr Bach, 1882.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1882, gan Mr. Ap Lewis, Llundain. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol. Ei amcan, fel y gellir tybio oddiwrth ei enw, ydoedd gwasanaethu adran o'r Bedyddwyr Cymreig. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig fisoedd.

Yr Ymddiddanydd, 1885.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Hydref 15fed, 1885, dan olygiaeth y Parch. Hugh Davies (Pencerdd Maelor), Cefnmawr, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. D. Jones, argraphydd, Rhosymedre. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dimai. Er dangos cyfeiriad y cylchgrawn bychan hwn, wele air "At y Darllenydd" ganddo yn ei rifyn cyntaf:—"Weithiau, byddaf yn ymddiddan a thi am bethau mawrion a phwysig dy enaid yn uniongyrchol. Bryd arall byddaf yn dyweyd gair am dy gysuron tymmorol; weithiau trwy hanesion a ffeithiau, ac weithiau trwy roddi ffeithiau mewn gwedd ffugyrol, a'r ol er mwyn dy gymhwyso i'r Nefoedd: canys gwn mai yno yr wyt am fyned yn y diwedd." Rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Yr Oes Newydd, 1886.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn Ionawr, 1886, dan olygiaeth, yn benaf, Mr. John Harries, Alltwen, Pontardawe, ac argrephid ef gan Mr. E. Rees, cyhoeddwr, Ystalyfera. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Bwriedid iddo fod yn fisolyn ansectol, er egluro, amddilyn, a lledaenu athrawiaethau ac egwyddorion yr Oruchwyliaeth Newydd, trwy ddetholion o weithiau anenwadol ac ysprydol." Nid hir y parhaodd.

Pwlpud Cymru, 1887.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1887, a chychwynwyd ef gan y Meistri Davies ac Evans, argraphwyr, Bala, a hwy hefyd sydd yn parhau i'w gyhoeddi a'i olygu.