Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Ystyrir ef yn gyhoeddiad anenwadol. Ceir yn mhob rhifyn ohono bregeth gan weinidog perthynol i un o'r gwahanol enwadau, ac hefyd ysgrifau byrion ar wahanol bregethwyr Cymru dan y penawd "Tywysogion yn mhlith Pregethwyr," a cheir darnau barddonol bron yn mhob rhifyn. Dywedir fod i'r cyhoeddiad hwn gylchrediad da.

Cylchgrawn Chwarterol, 1888.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Tachwedd, 1888, dan olygiaeth y Parch. Richard Lloyd Jones, Llanrwst (Coedpoeth gynt), ac argrephir ef gan y Meistri Woodall, Minshull, a Thomas, cyhoeddwyr, Gwrocsam. Cychwynwyd ef er gwasanaeth eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Nghylchdaith Coedpoeth, a bwriedir iddo gael ei olygu gan y gwahanol weinidogion fyddent yn digwydd bod ar y gylchdaith. Golygir ef yn bresennol (1892) gan y Parch. T. J. Humphreys, Coedpoeth. Daw allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ceir yn y rhifyn cyntaf ddarlun o'r Parch. R. Lloyd Jones, ac ysgrifau ar "Yr Yspryd Ymosodol" (gan y Parch. O. Evans), "Ein Capelydd," "Yr Ysgolion Sabbothol," &c.

Yr Adfywiadur, 1889.—Cychwynwyd hwn yn Ionawr, 1889, dan olygiaeth y Parch. Evan Davies, Llangollen (Conwy gynt), ac argrephir ef gan y Meistri Jones a'i Frodyr, Conwy. Ei amcan ydyw gwasanaethu eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Nghylchdaith Conwy, a bwriedir iddo gael ei olygu gan y gweinidogion a fyddent yn digwydd bod ar y gylchdaith. Golygir ef yn awr (1892), gan y Parch. Evan Jones, Conwy. Ceir gwahanol ysgrifau ynddo ar faterion fel "Undeb Crefyddol," "Y Rhestr," "Manteision Duwioldeb Foreuol," "Congl y Plant," &c. Daw allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog.