Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(Bangor yn awr), ac argrephir ef gan Mr. D. Jones, argraphydd, Rhosymedre, Ruabon. Bwriedir i'r cyhoeddiad hwn fod, yn benaf, at wasanaeth eglwysi ac, Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Wesleyaidd yn Nyffryn Conwy. Wele rai o'r penawdau yn y rhifyn cyntaf: "Anerchiad at yr Eglwysi," "Dirwest," "Charles Haddon Spurgeon," "Arlwyadau y Seiat," &c. Daw y cyhoeddiad hwn allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog.

2.—Y CYLCHGRAWN LLENYDDOL.

Y Greal, neu yr Eu grawn, sef Trysorfa Gwybodaeth 1800, 1805.—Gwnaed cais yn Ionawr, 1800, i gychwyn cylchgrawn llenyddol, gan Ieuan ap Risiart, Bryn-croes, Lleyn, yr hwn a ystyrid yn fardd da ac yn henafiaethydd medrus. Enw ei gyhoeddiad ydoedd y Greal, neu yr Eurgrawn, sef Trysorfa Gwybodaeth, a bwriedid iddo ddyfod allan yn chwarterol. Ond hwnw ydoedd yr unig rifyn a ddaeth allan, ac argraphwyd ef yn Nghaernarfon. Codai y methiant hwn, mewn rhan, oddiar ddifaterwch y wlad yn nghylch llenyddiaeth yn y cyfnod hwnw, ac hefyd, mewn rhan, oddiar goethder uchel y cyhoeddiad ei hunan. Gwnaed cais drachefn, modd bynag, yn y flwyddyn 1805, i gychwyn cyhoeddiad arall o'r un enw, a daeth y rhifyn cyntaf ohono allan yn Mehefin, 1805. Cychwynwyd hwn, yn benaf, gan Mr. Owen Jones (Owain Myfyr), dan nawdd Cymdeithas y Gwyneddigion a'r Cymreigyddion, Llundain, ac argrephid ef yn Llundain, a golygid ef gan Dr. W. O. Pughe. Naw rhifyn a ddaeth allan ohono, a daeth yr olaf allan yn Alban Hefin, 1807. Rhoddid llawer iawn o le yn y cyhoeddiad hwn i henafiaethau, a diau ei fod, ar y cyfrif hwnw, yn gystal a phethau eraill, yn dra gwerthfawr.