Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr Eurgraun Cymraeg, neu Trysorfa Gwybodaeth, 1807.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1807, gan Mr. David Thomas (Dafydd Ddu Eryri), Waenfawr, ac argrephid ef yn Nghaernarfon. Dywedid, ar y wynebddalen, yr amcenid iddo "gael ei gyhoeddi yn rhanau bedair gwaith yn y flwyddyn;" ond ni ddaeth yr ail rifyn allan hyd Mawrth, 1808, a bernir mai dyna y diweddaf a gyhoeddwyd ohono.

Yr Oes, 1825, Lleuad yr Oes, 1827.-Cychwynwyd Yr Oes yn y flwyddyn 1825, gan Mr. J. A. Williams, Abertawe, yr hwn hefyd oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad misol bychan ydoedd ar y dechreu, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Gan y tybid fod ei enw yn un tra anmhenodol, barnwyd mai mantais a fyddai iddo gael enw newydd, ac oddeutu diwedd yr ail flwyddyn, galwyd ef yn Lleuad yr Oes, ac helaethwyd ef, a chodwyd ei bris i fod yn chwe' cheiniog. Prynwyd ef, yn ystod y flwyddyn ganlynol (1828), gan Mr. S. Thomas, cyhoeddwr, Aberystwyth, a darfu iddo ef sicrhau gwasanaeth Mr. David Owen (Brutus) i fod yn olygydd iddo, a dyna yr adeg pan y symudodd i fyw i Aberystwyth. Yr oedd amryw lenorion galluog yn ystod y cyfnod hwn, megys William Saunders, David Jenkins, Samuel Thomas, Isaac Jones (y gramadegwr a'r cyfieithydd), yn arfer ysgrifenu yn ddoniol iddo. Ond, er y cwbl, lled afwyddiannus a fu Lleuad yr Oes tra yn Aberystwyth, ac am ychydig amser yr arosodd yno; a cheir ei fod, yn y flwyddyn 1829, yn cael ei brynu gan Mr. Jeffrey Jones, Llanymddyfri, a symudwyd y cyhoeddiad i gael ei argraphu yno, ac aeth Brutus yno i fyw. Ni bu y symudiad yn unrhyw les i'r cylchgrawn-helbulus ac ystormus a fu ei ymdaith yn ei gartref newydd, a'r canlyniad a fu i oleuni Lleuad yr Oes fyned yn llai yn barhaus, nes o'r diwedd bron lwyr ddiffoddi,