Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a diffoddi yn gwbl a ddarfu cyn hir. Cymerwyd Brutus i'r ddalfa oherwydd ei gysylltiad masnachol â'r Lleuad pan yn Aberystwyth, gan ei fod, mae yn ymddangos, yn gyd-gyfartal à Mr. Samuel Thomas, Aberystwyth, yn ei gysylltiadau arianol yn nglyn a'r cyhoeddiad, ac, ar gyfrif meth-daliadau, carcharwyd Mr. Thomas am rai misoedd, a bu raid i Brutua dreulio peth amser yn ngharchar Caerfyrddin. Gwnaeth Mr. Jeffrey Jones, Llanymddyfri, ei oreu i gadw y cyhoeddiad yn fyw; a bernir iddo ef wneyd cam mawr âg ef ei hun, mewn ffordd o gynnildeb a byw yn ddifoethau, er mwyn osgoi profedigaeth feth-daliadol. Ond, ar yr holl ymdrechion, diffodd a ddarfu goleuni Lleuad yr Des, a hyny yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Jeffrey Jones, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1830, a darfu i bwyllgor, perthynol i weinidogion yr Annibynwyr, brynu yr hawl yn y cylchgrawn, a chychwynasant ef dan enw arall.

Y Drysorfa Henafiaethol, 1839.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1839, gan Mr. Owen Williams (Owain Gwyrfai), Waenfawr, ac argraphwyd y rhifynau cyntaf o hono gan Mr. J. Jones, argraphydd, Llanrwst, a'r gweddill gan Mr. Potter, argraphydd, Caernarfon. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd swllt. Rhoddid lle neillduol ynddo i gasgliad henafol (eiddo y Parch. O. Ellis, rheithor Criccieth) o hanes llyfrau Cymreig, yn cynnwys gweithiau llawer o'r hen feirdd yn cyrhaedd oddiwrth Aneurin hyd at William Lleyn, a rhoddid lle ynddo i lythyrau Goronwy Owen a Llewelyn Ddu o Fôn, &c. Ychydig rifynau a ddaeth allan ohono, a hyny oherwydd diffyg cefnogaeth. Yr oedd un hynodrwydd yn perthyn i'r cyhoeddiad hwn: dechreuodd ei yrfa heb unrhyw ragymadrodd nac eglurhad arno ei hunan o gwbl, a diweddodd yn hollol sydyn, heb ddiweddglo na dim o'r fath, ac heb hys-