Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyna eiriau y craffus weinidog enwog hwnw, a bu ei eiriau yn gymhelliad i Dr. Edwards i fyned yn mlaen. Ymdrechwyd perswadio y Parchn. Henry Rees, a John Hughes (awdwr Methodistiaeth Cymru), Lerpwl, i weithredu fel golygwyr iddo, ond gwrthodasant yn bendant. Y canlyniad a fu i'r rhifyn cyntaf o hono ddyfod allan yn Ionawr, 1845, dan olygiaeth y Parchn. L. Edwards, D.D., a Roger Edwards, Wyddgrug, a theimlwyd ar unwaith ei fod, wrth gymeryd pob peth yn nghyd, o nodwedd uwch a galluocach na dím a ymddangosodd o'r blaen yn llenyddiaeth gyfnodol ein gwlad. Ystyrid ef yn gyhoeddiad cenedlaethol. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd swllt a chwe' cheiniog. Parhaodd i gael ei argraphu, o'r dechreu hyd y flwyddyn 1854, gan Mr. T. Gee, Dinbych, pryd y symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. P. M. Evans, Treffyrnon, ac oddeutu yr un adeg darfu i Dr. Edwards, Bala, ymneillduo o'r olygiaeth, a chymerwyd ei le gan y Parch. Owen Thomas, D.D., Lerpwl. Ceir, yn y flwyddyn 1862, fod y Parchu. Roger Edwards, ac O. Thomas, D.D., yn ymneillduo o'r olygiaeth, a chymerwyd eu lle gan y Parch. D. Rowlands, M.A., Bangor, yr hwn sydd yn parhau i'w feddiannu a'i olygu o'r pryd hwnw hyd yn bresennol. Bu cyfnewidiad arall yn nglyn â'r Traethodydd yn nechreu y flwyddyn 1887 penderfynwyd ei ddwyn allan yn ddau-fisol, a gostwng ei bris i swllt, ac er Ionawr, 1887, yn ol hyny y cyhoeddir ef. Y rhifyn olaf ohono a argraphwyd yn swyddfa y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon, oedd yr un am Ionawr, 1890, ac wedi hyny symudwyd ef i gael ei argraphu yn swyddfa Mr. D. W. Davies, Caernarfon, ac yno y mae hyd yn bresennol (1892).

Yr Adolygydd, 1850.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mehefin, 1850, a chychwynwyd ef gan bwyllgor o amryw lenorion yn y Deheudir, a darfu