Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r pwyllgor hwn ddewis y Parch. Evan Jones (Ieuan Gwynedd) yn olygydd, ac argrephid ef, ar y cychwyniad, gan Mr. William Owen, Heol Duc, Caerdydd, ond yn niwedd y flwyddyn 1851 symudwyd ef i gael ei argraphu gan y Meistri Rees a Williams, Llanelli. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd swllt a chwe' cheiniog, ac ymddengys fod ei gylchrediad, yn benaf, yn mhlith yr Annibynwyr. Y prif reswm dros ei symud i gael ei argraphu yn Llanelli ydoedd am y tybid y byddai yn fwy cyfleus argraphu Y Diwygiwr, Y Tywysydd, Y Gymraes, a'r Adolygydd, yn yr un dref, ac felly yn llawer mwy manteisiol i'r golygydd, gan mai Ieuan Gwynedd, ar y pryd, oedd yn golygu yr oll o'r rhai hyn. Ond, yn fuan ar ol hyny, aeth Ieuan Gwynedd yn wael ei iechyd, a pharhaodd i waelu, nes y dyryswyd yr holl gynlluniau hyn. Ceir mai yr erthygl olaf a ysgrifenwyd ganddo ef ydoedd yr un a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth, 1852, o'r Adolygydd, ar "Athrylith Dafydd Ionawr," a bu y talentog Ieuan Gwynedd farw yn fuan ar ol hyny. Ymgymerwyd â golygiaeth Yr Adolygydd, yn nesaf, gan y Parch. W. Williams (Caledfryn), ond rhoddwyd y cyhoeddiad rhagorol hwn i fyny ar ddiwedd y flwyddyn ddilynol. Caid ysgrifau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:— "Holl-dduwiaeth yr Almaen," "Y Ddau Adda," "India," "Adnoddau Cymru," "Anfarwoldeb yr Enaid," "Syr Robert Peel," "Egwyddorion Deonglaeth Ysgrythyrol," "Y Cyffro Pabyddol," "Adgyfodiad Crist," "Cymru cyn dyddiau y Diwygwyr Cymreig," "Meddiant Cythreulig," "Ymyraeth Dwyfol," &c.

Y Wawr, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1850, dan olygiaeth Mr. Robert Parry (Robyn Ddu Eryri), a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. David Evans (Ap Tudur), Caerdydd.Ei bris ydoedd pedair ceiniog, a deuai allan yn fisol. Cynnyrch