Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgrifell ei olygydd ydoedd bron y cyfan ohono. Ymddengys na ddaeth allan ond oddeutu pymtheg rhifyn.

Y Brython, 1858.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn gan Mr. R. Isaac Jones (Alltud Eifion), Tremadoc, a daethai allan am ychydig amser, ar y cyntaf, fel newyddiadur wythnosol, ond yn Tachwedd, 1858, ceir ei fod yn dechreu fel cylchgrawn misol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Byddai y Parch, D. Silvan Evans yn gweithredu fel cyd-olygydd â'r cyhoeddwr. Codwyd ei bris, yn Ionawr, 1860, i chwe' cheiniog, ac yn ystod y flwyddyn hon gorfu i Mr. Silvan Evans roddi yr olygiaeth i fyny ar gyfrif amledd galwadau eraill, ac felly, ar ol hyny, ei gyhoeddwr ei hunan ydoedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Parhawyd i fyned yn mlaen felly hyd ddechreu y flwyddyn 1862, pryd y dechreuwyd ei gyhoeddi yn chwarterol, a'i bris, wedi hyny, ydoedd swllt a chwe' cheiniog, a cheir fod oddeutu pedwar rhifyn ohono wedi dyfod allan, pryd y rhoddwyd ef i fyny oherwydd diffyg cefnogaeth. Er mai fel cyhoeddiad llenyddol yr ystyrid ef, eto ceir fod yr elfen hanesyddol yn hynod gref ynddo. Dywedir fod ei gyhoeddwr (Alltud Eifion) wedi cael colledion trymion yn nglyn âg ef, ac ymddengys fod yn ei fwriad, os ceir cefnogaeth, i ddwyn allan ail-argraphiad o'r Brython, a diau, ar lawer cyfrif, y byddai hyny. yn ddigon dymunol, gan fod llawer o ysgrifenwyr goreu Cymru, yn y cyfnod hwnw, yn arfer anfon eu cynnyrchion iddo.

Y Taliesin, 1859.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1859, dan olygiaeth, yn benaf, y Parch. John Williams (Ab Ithel), ac argrephid ef gan Mr. Isaac Clarke, cyhoeddwr, Rhuthyn. Yn chwarterol y deuai allan, a'r bris ydoedd swllt, a chychwynwyd ef er bod at wasanaeth y Cymdeithasau