Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llenyddol, yr Eisteddfod, a'r Orsedd. Efallai fod yn anhawdd cael gwell syniad am natur a chynnwys y cylchgrawn hwn nag a geir yn y geiriau a roddid ar ei wyneb—ddalon "Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Cenedl y Cymry, Defodau a Moesau y Cymry, ac Iaith y Cymry." Addefir yn gyffredin fod y cyhoeddiad hwn yn un da—gwasanaethai y wlad a'r genedl drwy gadw hen drysorau llenyddol gwerthfawr rhag myned ar ddifancoll, ac, ar y cyfan, nis gellir cwyno nad oedd yn cael cefnogaeth, er na pharhaodd ond am oddeutu dwy flynedd Diau mai un o'r prif resymau dros ei fachludiad oedd marwolaeth yr enwog Ab Ithel, a thrwy hyny collodd ei brif hyrwyddwr.

Y Beirniad, 1859.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1859, dan olygiaeth y Parchn. John Davies a William Roberts, ac argrephid ef yn swyddfa y Meistri Rees a Williams, Llanelli. Deusi allan yn chwarterol, a swllt ydoedd ei bris, ac yn mhlith yr Annibynwyr, yn benaf, y derbynid ef. Bu farw y Parch. W. Roberts yn y flwyddyn 1872, a bu farw y Parch. J. Davies yn y flwyddyn 1874. Ymgymerwyd, wedi hyny, a'r olygiaeth gan y Parch. J. B. Jones, B.A., Merthyr, a symudwyd y cyhoeddiad i gael ei argraphu yn Merthyr Tydfil. Ysgrifenai rhai o'r llenorion galluocaf iddo. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1879.

Y Llenor, 1860.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yu Ionawr, 1860, a chychwynwyd ef gan y Parchn. G. Parry, D.D., Carno; Hugh Jones, D.D., Lerpwl; a Josiah Thomas, M.A., Lerpwl, a hwynt-hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri Parry a Hughes, Heol-y-Bont, Caernarfon. Ei bris ydoedd dwy geiniog, a deuai allan yn fisol. Diau fod y cylchgrawn hwn, o ran natur a nerth ei