Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nod creigiau, temlau, a choed, &c., fel cyfryngau i'w drosglwyddo. Prin y mae anghen dangos fod y dull hwn i gario hanes yn un hollol anfanteisiol, er, hwyrach, ei fod y dull goreu a ellid gael ar y pryd. Yr oedd yn golygu llafur mawr, ac yn gosod y dilynwyr dan yr anfantais fwyaf i'w ddeall—dull trafferthus, tywyll, a meddylier mor araf a fuasai camrau goleuni a gwybodaeth pe yn dibynu yn barhaus ar y dull hwn. Diau mai oddiar yr un duedd yn y meddwl dynol—deddf rhoddi a derbyn y cychwynwyd y wasg, ac wrth ei chydmaru, fel cyfrwng i drosglwyddo hanes a gwybodaeth, â'r gwahanol ddulliau a enwyd, mae y gwahaniaeth yn annhraethol, ac yn ddigon i lanw pob meddwl ystyriol â diolchgarwch pur i Dduw am drefnu, yn ei Ragluniaeth ddoeth a da, y cyfrwng bendithiol, defnyddiol, a chyfleus hwn.

Diau y bydd William Caxton, yr hwn a anwyd yn y flwyddyn 1412, yn Fforest, Kent, yn sefyll yn anwyl a pharchus am oesoedd lawer fel yr un ag y priodolir iddo yn gyffredin gychwyniad dyfais yr argraphwasg yn Lloegr, a bydd enwau Aldus Mauntius, Reynold Wolfe, &c., fel rhai ag oeddynt yn cynnorthwyo gyda hyn, yn cael eu cadw yn ofalus ar lechres cymwynaswyr eu gwlad. Gyda golwg ar gychwyniad y wasg yn Nghymru, dywed Gwilym Lleyn mai Edward Wicksteed, Gwrecsam, oedd yr argraphydd a ymsefydlodd gyntaf yn ein gwlad, a hyny yn y flwyddyn 1718, ond dalia y Parch. Silvan Evans nad oes genym hanes pendant am yr un argraphydd yn Nghymru o flaen Isaac Carter, Trefhedyn, Castell Newydd Emlyn, yr hwn a gychwynodd ei fasnach yn y flwyddyn 1719, ac ymddengys fod rhesymau cryfion dros farnu mai y diweddaf sydd gywir; ond, yn fuan ar ol hyny, ceir hanes amryw yn argraphy, megis Nicholas Thomas, Caerfyrddin; John Ross eto; Samuel Lewis, eto; Evan Powell, eto;