Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un amcanion, yn y flwyddyn 1881, dan olygiaeth Mr. Hugh Davies (Pencerdd Maelor), Garth, ac argrephid ef yn yr un swyddfa ag yn flaenorol. Rhoddwyd ef i fyny drachefn yn y flwyddyn 1886.

Y Gerddorfa, 1872.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyboeddiad hwn ar Medi laf, 1872, dan olygiaeth Mr. D. Davies (Dewi Alaw), Pontypridd, yr hwn hefyd ydoedd yn ei argraphu, ac ar ol hyny, am ychydig amser, bu dan olygiaeth Mr. D Emlyn Evans, Hereford. Deuai allan yn yr Hen Nodiant a'r Tonic Sol-ffa. Cyhoeddiad misol ydoedd, a'i bris yn ddwy geiniog. Ceir, ar ol peth amser, fod y cylchgrawn hwn wedi dechreu peidio dyfod allan yn gyson a rheolaidd, a'r diwedd a fu iddo gael ei roddi i fyny.

Yr Ysgol Gerddorol, 1878.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1878, dan olygiaeth Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), Llanelli, a'r Parch. J. Ossian Davies, Bournemouth, ac argrephid ef gan Mr. James Davies, Llanelli. Ei brs ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol. Cyhoeddid ef yn yr Hen Nodiant a'r Tonic Sol—ffa. Ni pharhaodd ond am oddeutu dwy flynedd.

Cronicl y Cerddor, 1880.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan ar Gorphenaf laf, 1880, dan olygiaeth Meistri D. Emlyn Evans, ac M. O. Jones, Treherbert, ac argrephid ef gan Mr. Isaac Jones, Treherbert. Cyhoeddi ef yn y ddau nodiant, deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ni pharhaodd yn hwy nag oddeutu tair blynedd.

Y Perl Cerddorol, 1880.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1880, dan olygiaeth Mr. R. A. Williams, Cefn—coed—y—Cymer, ac argrephid ef gan Mr. Southey, cyhoeddwr, Merthyr Tydfil. Ceiniog ydoedd ei bris, a deuai allan yn fisol. Rhoddwyd ef i fyny ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf.