Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cerddor y Cymry, 1883, Cyfaill yr Aelwyd, 1880.—Cychwynwyd Cerddor y Cymry yn Mai, 1883, gan Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. D. Williams a'i Fab, Llanelli. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog, a chyhoeddid ef yn y ddau nodiant. Cychwynwyd Cyfaill yr Aelwyd yn y flwyddyn 1880, gan Mr. Beriah Gwynfe Evans, Llanelli, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Deuai allan, ar y cyntaf, yn wythnosol, ac yna yn fisol, a'i bris cychwynol ydoedd tair ceiniog. Amrywiol ydoedd nodwedd ei gynnwys, a'r elfen deuluaidd a chartrefol ydoedd ei brif elfen. Oddeutu dechreu y flwyddyn 1886, modd bynag, gwnaed cyfnewidiad gyda'r cyhoeddiadau hyn: unwyd Cerddor y Cymry & Chyfaill yr Aelwyd, a daethant allan fel un eyhoeddiad am ychydig dros ddwy flynedd, pryd y gwahanwyd hwy fel o'r blaen. Yr oedd rhan helaeth o'r Cyfaill, tra y bu Cerddor y Cymry yn nglyn âg ef, yn gerddorol. Ar ol hyny, modd bynag, dan yr un olygiaeth ag o'r blaen, ac yn yr un swyddfa, daeth Cyfaill yr Aelwyd allan yn fisol am dair ceiniog—a dywedai am dano ei hun ei fod "at wasanaeth y Cymry, yn cynnwys chwedloniaeth, cerddoriaeth, barddoniaeth, gwyddoniaeth, llenyddiaeth bur, adeiladol, a dyddanus." Teg ydyw dyweyd fod Cyfaill yr Aelwyd wedi ei roddi i fyny yn ei ffurf flaenorol er diwedd y flwyddyn 1891, a chysylltwyd ef â'r Frythones, a daeth y ddau allan, ar ddechreu y flwyddyn 1892, fel un cyhoeddiad. Hefyd, erbyn hyn, ceir fod Cerddor y Cymry wedi ail-ddechreu dyfod allan fel o'r blaen, yn yr un swyddfa, a than yr un olygiaeth. Mae Cerddor y Cymry, er dechreu y flwyddyn 1891, wedi cael ei helaethu i un-ar-bymtheg o dudalenau yn lle wyth, a chodwyd dimai ar ei bris, fel mai ceiniog-a