Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aberdar, ac argrephir ef gan Mr. B. Davies, Ponty— pridd. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Cyfrifir ef yn gwbl at wasanaeth cenhadol, a gwna les.

Newyddion Da, 1881, 1892.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Hydref, 1881, ac ystyrid ef fel cylchgrawn cenhadol y Methodistiaid Calfinaidd, a chyhoeddwyd ef trwy annogaeth y Gymanfa Gyffredinol. Golygid ef, ar ran Pwyllgor y Genhadaeth, gan y Parch. Josiah Thomas, M.A., Lerpwl, ac argrephid ef gan y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn chwarterol. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1885. Ceir yn Ionawr, 1892, fod y cylchgrawn hwn wedi ail—ymddangos, dan yr un enw, ac i'r un amcanion, a chyhoeddid ef y waith hon eto "drwy annogaeth y Gymanfa Gyffredinol." Golygir ef yn awr (1892) gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, ac argrephir ef gan Mr. W. Jones, Newport. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Dywedir, yn mhlith pethau eraill yn y "Gair at ein Darllenwyr," yn y rhifyn cyntaf:— "Yr unig reswm am ail—ymddangosiad Newyddion Da ydyw argyhoeddiad o anghen am ryw gyhoeddiad o'r fath er meithrin y teimlad cenhadol sydd mor gryf a chyffredinol yn ein haelodau a'n gwrandawyr. Rhoddir y lle blaenaf, wrth gwrs, i waith ein Cenhadaeth ein hunain yn India a Llydaw, ac ymdrechir dwyn i mewn o fis i fis hanes ein hymdrechion cenhadol o'r dechreuad.... Ond ni chyfyngwn ein sylw mewn un modd i'r gwaith yn ein plith ein hunain. Ein maes fydd y byd. Ceisiwn roddi rhyw syniad am lafur gwahanol genhadaethau Protestanaidd y byd; gan ddwyn gerbron hanes a gwaith y prif genhadon mewn gwahanol oesoedd a gwledydd."