Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6.—Y CYLCHGRAWN ATHRONYDDOL

Cylchgrawn y Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Fuddiol, 1834.—Cychwynwyd y cylchgrawn misol hwn yn Ionawr, 1834, dan olygiaeth y Parch. John Blackwell (Alun), B.A., a chyhoeddid ef gan y Meistri D. R. & W. Rees, Llanymddyfri. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog. Denai allan o'r wasg, yn y dechreu, ar y pymthegfed dydd o'r mis, ond, ar ol y flwyddyn gyntaf, dygid ef allan ar ddydd cyntaf pob mis. Dywedir, fel arweiniad i mewn i'r rhifyn cyntaf, wrth egluro ei natur, mai testynau erthygl— au Y Cylchgrawn a fyddent:"Ofyddiaeth yn ei holl ranau Bywydau enwogion Hanesiaeth—Deifnogaeth— Seroni—Barddoni a Henafiaeth Gymreig—Breintiau Cymdeithas ac Iawn Drefn Gwlad—Cyfarwyddiadau i Benau Teuluoedd, Tyddynwyr, Llafurwyr," &c. Er fod oddeutu wyth o gyfnodolion misol yn cael eu cyhoeddi yn Nghymru, ar yr un adeg ag y cychwynwyd Y Cylchgrawn, a hyny am yr un pris, eto yr oedd yr wyth hyny yn rhedeg bron yn gwbl i'r un cyfeiriad, sef crefyddol a duwinyddol, a chredwn fod y cyhoeddiad hwn gan Mr. Blackwell yn un o'r cyhoeddiadau Cymreig cyntaf i gymeryd i mewn elfenau yn tueddu at fod yn wyddonol ac athronyddol, a rhoddi lle i wybodaeth gyffredinol. Ceid darluniau da, bron yn mhob rhifyn, i egluro y materion, ac ymddengys i ni ei fod, wrth gymeryd pobpeth i'r cyfrif, yn un o gyhoeddiadau goreu y cyfnod hwnw; ond drwg genym na ddaeth alian ohono and deunaw rhifyn, a rhoddwyd ef i fyny oberwydd diffyg cefnogaeth.

Y Symbylydd, 1864.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Medi, 1864, a chychwynwyd ef gan y Parch. J. Ogwen Jones, B.A., Rhyl, yr hwn hefyd ydoedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. Clement Evans, 40, Mill Street, Lerpwl. Deuai allan yn fisol,