Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i bris ydoedd ceiniog. Gellir dyweyd fod cryn lawer o'r elfen athronyddol yn y cyhoeddiad hwn, a mwy nag yn y cyffredin o'r cylchgronau Cymreig, yn enwedig ar yr adeg hono, a diau iddo wneyd lles trwy arwain sylw ei ddarllenwyr i gyfeiriadau ag oeddynt yn lled newydd i'r lluaws ar y pryd. Ceid ysgrifau ynddo ar "Anmhosiblrwydd Symudiad," "Creadigaeth," "Daeareg," "Y Gwenyn," "Fra Paulo Sarpi," &c., ac eto, cofier, edrychid ac ymdrinid â'r holl bethau hyn oddiar safle grefyddol. Ymddengys mai y rhifyn am Mehefin, 1865, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Yr Athronydd Cymreig, 1890.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1890, gan y Parch. W. Evans (Monwyson), Wyddgrug, ac efe hefyd sydd yn ei olygu ac argrephid ef gan Mr. Samuel Hughes, 3, York Place, Bangor. Daw allan yn ddau—fisol, a'i bris ydyw tair ceiniog. Wrth egluro amcan ei gychwyniad, dywed y golygydd:—"Yn credu fod anghen am gyhoeddiad o natur a maint Yr Athronydd Cymreig, ar gyfer ieuenctyd Cymru ac eraill, yr ydym yn cyflwyno y rhifyn cyntaf hwn i sylw a nawdd y Cymry yn gyffredinol. Bydd y cyhoeddiad yn cynnwys erthyglau cyflawn ar y testynau a nodir, sef Athroniaeth, Duwinyddiaeth, Esboniadaeth, Beirniadaeth, Cerddoriaeth, Barddoniaeth, ac Amrywiaeth. Bydd croesaw i bob gofyniad duwinyddol, athronyddol, cerddorol, a barddonol, gan ein bod wedi sicrhau boneddigion galluog i ymgymeryd â'r naill a'r llall." Cawn fod ysgrifau galluog wedi ymddangos eisoes ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:—"Athroniaeth Henafol," "Hen Emynwyr Cymreig," " Athroniaeth Pregeth Paul yn Athen," "Meddyleg, nea Athroniaeth y Meddwl," "Ysprydoliaeth y Beibl," "Y Drysorgell Ysgrythyrol," "Athroniaeth Cyfrifoldeb," "Athroniaeth Iaith," &c. Baasem yn tybied, os yn dal yn mlaen fel yn bresennol, y gall