Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn maintioli, yn ateb yn hollol i'w enw. Drwg iawn genym orfod hysbysn iddo gael ei roddi i fyny yn lled fuan oherwydd diffyg cefnogaeth, a gresyn o'r mwyaf, yn sicr, ydoedd hyny.

Cydymaith yr Ysgol Sabbothol, 1852.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1852, gan Mr. R. O. Rees, Dolgellau, ac efe hefyd oedd yn ei arolygu ac yn ei argraphu. Ei amean, fel y dynoda ei enw, ydoedd gwasanaethu yr Ysgol Sabbothol. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Oes fer a gafodd. Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol, 154.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1854, dan olygiaeth Mr. W. V. Villiams, Caernarfon, ac argrephid ef gan Mr. Thomas Jones—Evans, cyhoeddwr, Caernarfon. Cychwynwyd y cylchgrawn hwn, yn benaf, at wasanaeth Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Arfon, a cheir, yn nglyn â'i gychwyniad, fod y Cyfarfod Chwech—wythnosol [perthynol i'r Ysgolion Sabbothol yn Dosparth Caernarfon] gynnaliwyd Rhagfyr lleg, 1853, yn y Ceunant, yn llawen o'r cynnygiad [i gychwyn y cylchgrawn hwn], a'u bod yn gobeithio y bydd i'r athrawon wneyd eu goreu yn y gwahanol ysgolion tuagat roddi cefnogaeth i'r brodyr ieuainc oedd yn ymgymeryd â'r anturiaeth." Gwelir ei fod, mewn rhan, yn cael ei gychwyn dan nawdd Cyfarfod Ysgolion Dosparth Caernarfon. Deuai allan yn fisol a'i bris ydoedd ceiniog. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig.

Yr Esboniwr, neu Gylchgrawn yr Ysgol Subbothol, 1854. —Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1851, dan olygiaeth y Parch. J. Hughes, D.D., Caernarfon (Porthaethwy y pryd hwnw), ac argrephid ef gan Mr. Thomas Jones—Evans, cyhoeddwr, Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Buasid yn tybied, oddiwrth ei "Anerchiad at ein Darllenwyr," am rifyn