Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhys Thomas, eto; Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn), Caergybi; R. Marsh, Gwrecsam; John Rowland, Bodedern; Daniel Thomas, Llanymddyfri; E. Carnes, Treffynnon; Titus Evans, Machynlleth; J. Salter, Drefnewydd; E. Evans, Aberhonddu; Thomas Roberts, Caernarfon; Dafydd Jones, Trefriw, a meibion iddo yn ddiweddarach, sef John Jones, Llanrwst, a Robert Jones, Bangor, &c. Ceir, oddeutu dechreu y ganrif hon, fod tri o ddynion ieuainc Seisonig, y rhai oeddynt yn gyd egwyddor-weision (fellow -apprentices) yn y gelfyddyd hon yn Nghaerlleon, wedi dyfod i gychwyn swyddfeydd argraphu, ar eu cyfrifoldeb eu hunain, mewn gwahanol fanau yn Nghymru. Darfu i Robert Saunderson—dyna enw un o'r tri—gychwyn gwaith, ar gais y diweddar Barch. Thomas Charles, yn y Bala; Thomas Gee (tad y presennol Mr. T. Gee)—dyna un arall o honynt—a gychwynoedd fasnach yn nhref Dinbych, mewn trefn, ar y dechreu, i argraphu llyfrau y diweddar Barch Thomas Jones, o'r dref hono; a John Brown—dyna enw y trydydd—a ymsefydlodd yn Bangor, er mwyn, yn benaf, bod yn gyfleus i argraphu, dros gwmni neillduol, newyddiadur Seisonig a elwid The North Wales Gazette. Bu y tri dynion ieuainc hyn yn dra llwyddiannus. Ymroddasant yn gwbl i'r fasnach, a daethant yn fuan i gael eu cyfrif yn brif argraphwyr a chyhoeddwyr y Dywysogaeth. Dyna, mewn ychydig eiriau, fyr -hanes cychwyniad yr argraphwasg yn Nghymru: dechreu yn ddi-nod, gwan, a chydmariaethol ddi-ddylanwad, ond, erbyn hyn, mae ei changhenau wedi ymledu a chynnyddu yn ddirfawr, a swyddfeydd argraphu—a rhai o honynt yn gallu myned trwy waith mawr—i'w cyfrif wrth yr ugeiniau, a phrin y ceir yr un dref nac ardal boblog na cheir ynddynt gyfleusderau i argraphu. Yn nghanol cynnydd presennol y manteision hyn, nac anghofier talu y warogaeth