Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwefror, 1854, mai at wasanaeth Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Môn, yn benaf, y cychwynwyd ef. Ceid ysgrifau rhagorol ynddo ar destynau fel y canlyn:"Yr Addfwyn yn etifeddu y ddaear," "Y Pedwerydd Gorchymyn," "Y Bennod Gyntaf o'r Hebreaid," &c.

Charles o'r Bala, Yr Aelwyd, 1859.—Cychwynwyd y cyhoeddiad a elwid Charles o'r Bala yn y flwyddyn 1859, dan olygiaeth y Parch, N. Cynlafal Jones, D.D., Llanidloes, hyd Mehefin, 1859, ac yna Mr. J. Davies (Gwyneddon), Caernarfon, oedd yn ei olygu tra y parhaodd i ddyfod allan. Eiddo y Meistri James Evans, Caernarfon, a J. Davies (Gwyneddon), ydoedd y cyhoeddiad hwn, ac argrephid ef yn swyddfa Mr. James Rees, Caernarfon. Deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Newidiwyd ei enw oddeutu diwedd y flwyddyn gyntaf, a galwyd ef ar yr enw Yr Aelwyd, ond prin y parhaodd am flwyddyn ar ol hyn. Deuai allan yn fisol dan ei enw newydd, a cheiniog ydoedd ei bris. Mewn pennillion a ymddangosodd yn rhifyn cyntaf Charles o'r Bala, wrth ddarlunio amcanion y cyhoeddiad, dywedai Ceiriog mai un amcan ydoedd dal i fyny goffadwriaeth yr anfarwol Mr. Charles,

"A dysgu 'n plant i'w alw 'n dad
Gwybodaeth Feiblaidd Gwalia—
Yn In Memoriam gwasg ei wlad
Cyflwynir Charles o'r Bala.

Y Bugail, neu Gylchgrawn Gwybodaeth Ysyrythyrol a Chydymaith yr Ysgolion Sabbothol, 1859. Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan yn Hydref, 1859, dan olygiad y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac argrephid ef gan Mr. R. Jones, Bethesda, Arfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei arwydd-