Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

air ydoedd—"Bugeilia fy Nefaid." Byddai yn llawn o Eglurhadaeth Ysgrythyrol. Ber a fu ei oes.

Yr Ymwelydd, 1859.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn Mai, 1859, a chychwynwyd ef mewn cysylltiad â Chyfarfod Ysgolion y Methodistiaid Calfinaidd yn Penllyn (Meirionydd) ac Edeyrnion. Golygid ef gan y Parch, T. C. Edwards, D.D., Bala, a John Williams, Llandrillo, ac argrephid ef gan Mr. R. Saunderson, Bala. Cylchgrawn lled fychan mewn maintioli ydoedd, a deuai allan yn ddau-fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ni pharhaodd yn hir, oherwydd cawn y rhifyn olaf ohono yn dyfod allan yn Tachwedd, 1861. Ystyrid ef, fel y gallesid disgwyl oddiwrth enw a safle ei olygwyr, yn gyhoeddiad sylweddol ac eglurhaol, ac yn sicr o fod yn wasanaethgar iawn i'r Ysgol Sabbothol.

Y Cyfaill Eglwysig, 1862 —Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, mewn cysylltiad a'r Eglwys Sefydledig, yn y flwyddyn 1862, a daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Ei olygydd ydyw y Parch. Canon W. Evans, Rhymni. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydyw: "Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd." Rhoddir un ran ohono i wasanaethu dirwest, a golygir y rhan hono gan y Parch. J. P. Lewis, Cresford, Gwrecsam. Cyhoeddir ac argrephir ef gan Meistri W. Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin. Cyhoeddiad at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol ydyw hwn, ac, os nad ydym yn camgymeryd, i'r amcan hwnw y cychwynwyd ef gyntaf. Rhoddir lle helaeth ynddo i Eglurhadaeth Ysgrythyrol. Ceir cyfres o ofyniadau i'r darllenwyr bron yn mhob rhifyn ohono, ac anfonir atebion iddynt i'r rhifynau dilynol. Wele, er enghraipht, ddau neu dri, yn mhlith eraill, o'r gofyniadau oedd ynddo am Mai, 1890: (a) Pa sawl allor a adeiladodd Abraham i'r Arglwydd, ac yn mha