Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

leoedd (6) Beth yw y gwahaniaeth rhwng "heddwch" & "cymmod," yn ol fel y gosodir hwynt allan yn y Beibl (c) Beth yw y gwahaniaeth rhwng y geiriau "olewydd ac olew-wydd," "ffawydd a ffaw-wydd" Diau fod y cyhoeddiad hwn yn wir deilwng o'r gefnogaeth a dderbynia.

Yr Arweinydd, 1862, 1876.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn—y gyfres gyntaf—yn nechreu y flwyddyn 1862, dan olygiaeth y Parch. Griffith Davies, Aberteifi (Aberystwyth gynt), a Thomas Edwards, Penllwyn, ond teg yw dyweyd mai ar Mr. Davies y disgynai y gwaith yn benaf. Cyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. Phylip Williams, Aberystwyth. Byddai y Parch J. Williams, Aberystwyth, yn cynnorthwyo gyda'r rhan wleidyddol o'r cylchgrawn, a Mr. J. Jones (Ivon), Aberystwyth, yn gofalu am y farddoniaeth. Ar y golygwyr yr oedd y cyfrifoldeb arianol yn gorphwys, oddigerth fod Cyfarfod Misol Sir Aberteifi yn talu rhyw gymaint am gyhoeddi ei gofnodion misol ynddo, ond tynwyd hyny yn ol yn ystod y drydedd flwyddyn. Ceiniog-a-dimai oedd ei bris ar y cyntaf, ond ar addewid y Cyfarfod Misol i dalu am gyhoeddi y cofnodion, gostyngwyd ei bris i geiniog. Yn y cylchgrawn hwn yr ymddangosodd y gyfres gyntaf, gan y diweddar Barch. David Charles Davies, M.A., o'r "Nodiadau ar Epistol Cyntaf Ioan." Rhoddid gair uchel i'r cyhoeddiad hwn, ond drwg genym iddo gael ei roddi i fyny ar diwedd ei drydedd flwyddyn. Yn Ionawr, 1876, cychwynwyd yr ail gyfres ohono dan olygiaeth y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., Aberystwyth, ac amcenid iddo fod at wasanaeth eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd a Dehau Ceredigion. Cyhoeddid ac argrephid ef, dros y ddau Gyfarfod Misol (Gogledd a