Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dehau Aberteifi), gan Mrs. Emma C. Williams, Great Darkgate-street, Aberystwyth. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd ef yn benaf, fel y gwelir, er mwyn cyfarfod anghenion neillduol Sir Aberteifi, a gofelid am dano, yn ei gysylltiadau masnachol, gan bwyllgor perthynol i'r ddau Gyfarfod Misol hyn.

Yr Athraw a'r Ymwelydd, 1864.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1864, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. John D. Jones a'i Gwmni, Bangor. Deuai allan yn fisol, a chynnwysai pob rhifyn ddeuddeg-ar- hugain o dudalenau. Ni ddaeth allan ohono ond pedwar rhifyn. Wele rai o destynau y rhifyn cyntaf:—"Yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru," "Gweithgarwch gyda Chrefydd," "Mawredd y Beibl," &c.

Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol, 1875.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1875, a chychwynwyd ef gan y Parch. J. R. Hughes, Brynteg, Môn, ac efe oedd yn ei olygu, a golygid ei—farddon. iaeth gan y Parch. R. Jones (Glan Alaw), Llanfachreth (Bryn'refail, Arfon, yn awr). Argrephid ef gan Mr. Lewis Jones, Llanerchymedd. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd dimai. Er ei fod yn arbenig at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol, rhoddid lle ynddo i'r elfen ddirwestol.

Cronicl yr Ysgol Sabbothol, 1878.—Cychwynwyd hwn yn Ionawr, 1878, gan y Parchn. John Evans, Garston, a John Jones, 469, West Derby Road, Lerpwl (Runcorn gynt), a hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid of gan Mr. D. H. Jones, Dolgellau. Darfu i'r ddau olygydd ymneillduo cyn diwedd dwy flynedd, a threfnwyd fod i'r Parch. D. C. Edwards, M.A., Merthyr Tydfil (Bala gynt), ymgymeryd â'r olygiaeth. Ar ol ei olygu am yspaid, darfu iddo yntau roddi i fyny yr olygiaeth, a