Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog, Wele ei eiriau, wrth egluro amcan ei ymddangosiad, yn y rhifyn cyntaf: "Mae iddo ei le arbenig ei hun, ac ni sanga ar diriogaeth yr un cyhoeddiad arall. . . . . Cwynir yn fynych fod y maes llafur yn galed i'w weithio allan—fod aml i ysgol yn fyr o athrawon goleuedig, a bod cyfryngau i ymgydnabyddu â'r gwersi yn hynod brin, yn ogystal a'u bod tuallan i allu deiliaid yr Ysgol Sabbothol i'w cyrhaedd. . . . Amcenir i'r Addysgydd lanw y bwlch, a gwneyd pob ysgol trwy'r Dalaeth, o hyn allan, yn ddi-esgus. Bydd yn hawdd bellach, yn nghymhorth y cyhoeddiad, i sefyll arholiad llwyddiannus yn y gwahanol ddosparthiadau ar ben y tymmor."

8.—Y CYLCHGRAWN DIRWESTOL.

Y Cymedrolydd, 1886.—Cylchgrawn bychan misol ydoedd hwn, a chychwynwyd ef, er mwyn gwasanaethu achos sobrwydd, gan y Parch Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, a chyhoeddid ac argrephid ef yn swyddfa Mr. T. Gee, Dinbych. Ymddengys, mor bell ag y gellir gweled, mai dyma yr ymgais gyntaf i gael cylchgrawn arbenig at wasanaeth yr achos da hwn. Ei bris ydoedd ceiniog, ond drwg genym na ddaeth allan ohono ond oddeutu wyth rhifyn.

Y Dirwestydd, 1836.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1836, gan Mr. John Jones, Lerpwl, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd ef er mwyn egluro ac amddiffyn egwyddorion llwyr-ymwrthodiad. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu tair blynedd.

Y Cerbyd Dirwestol, 1837.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn nechreu y flwyddyn 1837, gan y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri H. ac O.