Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, Wyddgrug. Cylchgrawn bychan misol ydoedd, a'i bris yn geiniog, ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hwy na diwedd y flwyddyn gyntaf. Nis gellir peidio sylwi, yn nglyn â chychwyniad rhai o'r cyhoeddiadau dirwestol hyn, yn ogystal â rhai cylchgronau mewn cyfeiriadau eraill, fod ein cenedl dan rwymedigaeth fawr i gydnabod llafur y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), a diau fod Clwydfardd yn rhoddi datganiad i'r teimlad cenedlaethol, pan y dywedodd am dano:—

"Owain gu fu drwy 'i fywyd—yn weithiwr
A phregethydd diwyd ;
A'i Dduw was'naethodd o hyd
A chalon ddifryoneulyd.

Pur Gristion mewn gwirionedd—hynod oedd,
Yn llawn dawn a rhinwedd;
Wr da, pan ddeuai'r diwedd,
Adre' aeth i wlad yr hedd."

Yr Adolygydd, 1839.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1839, gan y Parch. W. Williams (Caledfryn), Caernarfon, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Ei amcan ydoedd amddiffyn cymedroldeb yn hytrach na llwyrymwrthodiad, a daliai nad oedd yr olaf ond eithafion ffol, di—angenrhaid, ac eithafol. Ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hir.

Y Dirwestwr, neu Yr Hanesydd Rechabaidd, 1840.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Awst, 1840, dan nawdd ac awdurdod Cymanfa Ddirwestol Gwynedd, a byddai yn cael ei olygu a'i argraphu gan Mr. Richard Jones, Dolgellau. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ystyrid ef yn gylchgrawn dirwestol hollol, ac "amcan yr hwn sydd ar blaid moesau a chrefydd, ac ymdrech yr hwn yw sychu i fyny y ffynnonell benaf o'r trueni dynawl, sef y defnydd o'r gwlybyroedd meddwawl,