Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dangos y troseddau, yr afiechyd, y drygau, a'r marwolaethau sydd yn nglyn a'r arferiad ohonynt." Dyna ei neges, yn ol ei eiriau ef ei hun, ar ei wyneb—ddalen, ond ymddengys i ni mai un o'i brif wendidau ydoedd cadw braidd yn gyfyng mewn cyfeiriad, a chredwn y dylasai, er bod yn llwyddiannus, gymeryd golwg eangach a mwy amrywiol ar wahanol agweddau dirwest, a diau y gallasai wneyd hyny heb golli dim ar ei werth fel cyhoeddiad cwbl ddirwestol. Credwn, er hyny, fod hon yn ymgais gywir i wasanaethu achos sobrwydd, a bod y cyhoeddiad hwn yn teilyngu llawer gwell cefnogaeth nag a gafodd, oherwydd rhoddwyd ef i fyny oddeutu dwy flynedd ar ol ei gychwyniad.

Y Dirwestydd Deheuol, 1840.—Cychwynwyd y cyhoeddiad dirwestol hwn yn y flwyddyn 1840, gan Mr. B. R. Rees, Llanelli, ac efe hefyd ydoedd yn ei ddwyn allan. Cylchgrawn bychan rhad ydoedd, a dygid ef allan yn fisol. Ei amcan ydoedd bod yn wasanaethgar i ddirwestwyr y Deheudir, ond ni pharhaodd yn hir.

Y Canor Dirwestol, 1844.—Cychwynwyd y cyhoeddiad dirwestol hwn yn y flwyddyn 1844, gan y Parch. D. T. Williams (Tydfilyn), Merthyr Tydfil, ac efe oedd yn ei olygu, ac yn gyfrifol am dano. Gwasanaethai er mantais i'r gwahanol Gymdeithasau Dirwestol oedd yn y wlad ar y pryd hwnw. Ni ddaeth allan ohono ond ychydig rifynau.

Udgorn Dirwest, 1850.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y flwyddyn 1850, a chyhoeddid ef gan Mr. Robert Jones, argraphydd, Bethesda. Deuai allan yn fisol, ond ni ddae allan ychwaneg nag oddeutu wyth rhifyn. Ail—gychwynwyd ef gan Mr. Owen Jones, Caernarfon, dan yr enw newydd Yr Athraw, a'i bris ydoedd dwy geiniog, ond cyfarfyddodd ei ddiwedd yn fuan.