Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Temlydd Cymreig, 1873.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1873, gan Mr. John Davies (Gwyneddon), Caernarfon, ac efe ydoedd yn ei gyhoeddi, ac yn ei olygu. Trosglwyddwyd ef, ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, yn eiddo i'r Uwch Deml Gymreig, a bellach dan nawdd y Deml y cyhoeddid ef, ac argrephid of gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei brif amcan ydoedd bod at wasanaeth yr urdd ddirwestol newydd a elwid Temlyddiaeth Dda. Ni pharhaodd i ddyfod allan, yn y ffurf oedd arno, ond hyd oddeutu diwedd y flwyddyn 1878, ac yna, ar ddechreu y flwyddyn 1879, dygwyd ef allan mewn ffurf arall, dan yr enw Y Dyngarwr.

Y Dyngarwr, 1879.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1879, dan nawdd ac awdurdod Uwch Deml Gymreig Cymru, a golygid ef gan y Parch. W. Gwyddno Roberts, Llanystumdwy, ac argrephid ef gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Bu dan olygiaeth Mr. Roberts hyd y rhifyn am Ebrill, 1880, pryd y bu Mr. Roberts farw yn lled sydyn ar Ebrill 30ain, 1883, yn 4lain mlwydd oed. Deallwn ei fod ef wedi trefnu y rhifyn am Mai yn barod i'r wasg cyn ei farwolaeth. Yna ceir, gyda'r rhifyn am Mehefin, 1880, fod yr olygiaeth yn llaw y Parch. W. Jones, M.A., Fourcrosses, a bu iddo ef barhau i'w olygu hyd Ebrill, 1887. Yn ddilynol, bu y Parch. J. Evans—Owen, Llanberis, yn ei olygu, ond prin, er y cyfan, y parhaodd y cyhoeddiad i ddyfod allan yn hwy na dwy flynedd, ac ar ol peth ymdrech i ail—ennyn ffyddlondeb gydag ef, rhoddwyd ef i fyny. Dechreuai y rhifyn cyntaf o'r Dyngarwr gyda darlun rhagorol o'r enwog Mr. J. B. Gough, ac erthygl ddyddorol arno, a cheir yn yr un rhifyn "Golofn yr Esboniwr," "Adran Materion Cyffredinol,"