Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyledus i'r hen argraphwyr boreuol a enwyd: gwnaethant gymwynas genedlaethol â Chymru, a dylem, fel cenedl, anrhydeddu eu coffadwriaeth.

Anhawdd, yn enwedig i ni, yn amledd cyfleusderau yr oes hon, ydyw iawn-brisio manteision yr argraphwasg. Ceir, drwy y cyfrwng hwn, fod y lenyddiaeth uwchaf yn cael ei dwyn i gyrhaedd pobl gyffredin, a hyny ar delerau y buasai yn anhygoel tybied, yn yr hen amseroedd, eu bod yn bosibl. Ceir, drwy fanteision y wasg, fod ffrwyth y meddyliau galluocaf ac uwchaf, yn y gwledydd eraill, yn cyrhaedd Cymru. Mae hi fel pe yn cario y naill wlad i'r llall, ac yn gwneyd gwledydd pellenig a dieithr yn gymydogion. Cysylltir yr hen amseroedd wrth yr amseroedd hyn, a gellir dyweyd fod holl hanes y byd, mewn amser a lle, yn cael ei grynhoi megis i ystafell fechan, ac yn yr oll, a thrwy yr oll, ffurfir un gadwen ardderchog ac ysplenydd i ddangos cwrs llywodraeth fanwl Duw dros ei greaduriaid, ac mae yr holl gadwen, drwy fanteision digyffelyb y wasg, yn chael ei chario megis at ddrysau ein tai. Anhawdd ydyw desgrifio maint ei gwasanaeth i gymdeithas: meddylier am dduwinyddiaeth, gwyddoniaeth, hanesiaeth, athroniaeth, a masnach y byd, a lluaws o'r canghenau eraill—maent oll, yn ddieithriad, dan rwymau i'r argraphwasg, a barna rhai yn gryf fod y ddyfais i argraphu, wrth gymeryd pobpeth i ystyriaeth, wedi gwneyd llawer mwy tuag at wareiddio, goleuo, a dyrchafu y byd na holl ddamcanion a darganfyddiadau gwyddonol yr oesoedd. Methwn a gweled fod dim gwir angenrheidrwydd yn galw am ddwyn y wasg i sefyll cystadleuaeth â'r pwlpud, a cheisio penderfynu gan pa un o honynt y mae y dylanwad mwyaf. Ni fwriadwyd y naill i sefyll rhedegfa â'r llall, ac felly pa ddyben eu cydmaru? Onid gwaith ofer ydyw dadleu ar hyn? Amcan mawr ysbrydol ac