Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Congl yr Adroddwr a'r Datganydd," "Dalen yr Areithydd a'r Ysgrifenydd," "Dosparth y Plant,' "Hanesynau Addysgiadol," "Dyddanion," "Cerddoriaeth, Yr Ardd," "Y Llwyn Bytholwyrdd," "Nod— iadau y Golygydd," "Barddoniaeth," a "Cofnodion," &c. Wele air allan o'r anerchiad olygyddol gyntaf:— "Cychwynir Y Dyngarwr oddiar grediniaeth gref fod gwir anghen am gyhoeddiad neillduedig i hyrwyddo achos sobrwydd, ac i roddi gwersi yn aml ar rinwedd a moesoldeb."

Cronicl Dirwestol Cymru, 1891.—Daeth y cynllun-rifyn o'r cyhoeddiad hwn allan yn Medi, 1890, ond yn Mehefin, 1891, y dechreuodd ddyfod allan yn rheolaidd. Ar y cyntaf byddai yn ddwyieithog—haner-yn-haner—a gelwid ef ar yr enw The Cambrian Temperance Chronicle yn gystal ag ar yr enw Cronicl Dirwestol Cymru. Ond, erbyn hyn, er Tachwedd diweddaf, mae yn gwbl Gymreig. Cyhoeddir ef dan nawdd Cymanfa Ddirwestol y Deheudir, a Rechabiaid Gwent a Morganwg. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Golygir ef gan Mr. Daniel Thomas, Church Villa, Rhymni, ac argrephid ef, ar y dechreu, gan Mr. Edwin Poole, Aberhonddu, ond, yn awr, argrephir ef gan Mr. Joseph Williams, Swyddfa Y Tyst a'r Dydd, Merthyr Tydfil, a deallwn fod yr holl archebion am dano, yn awr (1892), i'w hanfon i'r Parch. Thomas Morgan, Bryntirion, Dowlais.

9.—CYLCHGRAWN I'R PLANT.

Yr Addysgydd, 1823.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Ionawr, 1823, a bernir yn lled gyffredinol, erbyn hyn, er na enwir ef ar y wyneb-ddalen, mai y Parch. D. Charles, ieu., Caerfyrddin, oedd y golygydd, ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Caerfyrddin. Deuai